Mae mudiad Gwir Gymru wedi rhybuddio y bydd pleidlais ‘Ie’ ar 3 Mawrth yn gam tuag at dorri pob cysylltiad â’r Deyrnas Unedig.
Wrth ymddangos ar raglen wleidyddol Dragon’s Eye neithiwr dywedodd Rachel Banner o’r mudiad bod “Cymru ar lethr llithrig tuag at wahanu o’r Deyrnas Unedig”.
“Does dim gwadu bod hwn yn daith – rydym ni eisoes wedi clywed bod hwn yn broses, yn hytrach na digwyddiad,” meddai.
“Felly beth yw diwedd y daith? Rydyn ni eisiau i wleidyddion fod yn agored ynglŷn â beth sydd ar y pen draw.”
Statws swyddogol
Ddoe cadarnhaodd y mudiad na fydden nhw’n gwneud cais i arwain yr ymgyrch ‘Na’ swyddogol ar gyfer y refferendwm ar fwy o ddatganoli.
Os nad oes ymgyrch ‘Na’ swyddogol ni fydd y Comisiwn Etholiadol yn cael penodi ymgyrch ‘Ie’ chwaith.
Mae hynny’n golygu na fydd mudiad Ie Dros Gymru yn cael £70,000 i’w wario ar eu hymgyrch nhw, yn ogystal â chyfle i ddarlledu ar y teledu.
Mae yna bryderon na fydd cymaint yn pleidleisio ar y diwrnod os nad oes ymgyrch amlwg o blaid ac yn erbyn y refferendwm.
Ond gwadodd y mudiad bod gwrthod statws swyddogol yn ymgais i ddifetha’r ymgyrch ‘Ie’.
“Rydyn ni wedi bod eisiau dadl agored ynglŷn â’r setliad yma ers y dechrau,” meddai Rachel Banner.
“Mae angen i’r holl faterion yma gael eu gwyntyllu yn agored nawr.
“Fe ddechreuon ni yn fudiad llawr gwlad ac rydym ni wedi penderfynu parhau yn yr un modd yn hytrach na gwario arian y trethdalwyr ar ein hymgyrch.”
Ond cyfaddefodd bod y mudiad yn pryderu ynglŷn â’r niwed posib i’w hygrededd nhw pe bai’r Comisiwn Etholiadol wedi penderfynu nad oedden nhw’n ymgyrch ‘Na’ swyddogol.
Serch hynny roedd Rachel Banner yn credu fod â nhw ddigon o gefnogaeth i fod yn ymgyrch ‘Na’ effeithiol.
“Dyw hi ddim yn fater o ddiffyg cefnogaeth – mae â ni gefnogaeth o bob cwr o Gymru. Mae cannoedd o bobol yn ymuno â Gwir Gymru nawr.”
Ymateb
“Mae’r ffaith nad oes neb yn fodlon camu ymlaen i gynrychioli’r ymgyrch Na yn swyddogol yn siomedig iawn am ei fod yn golygu na fydd pobol Cymru yn cael cyfle i ddeall beth yw’r materion sy’n cael eu hystyried,” meddai cadeirydd Ie Dros Gymru, Roger Lewis, ar y rhaglen.