Mae dros 2,000 o fenywod yn yr Eidal, gan gynnwys gwleidyddion ac actoresau, wedi arwyddo deiseb yn dweud wrth y Prif Weinidog nad ydi pob merch yn butain neu sioeferch.
Mae’r ymgyrch ‘Basta!’ (Digon!) yn cael ei gydlynu gan papur newydd adain chwith L’Unita.
Cyhoeddwyd yr ymgyrch ddoe wrth i’r Prif Weinidog wynebu beirniadaeth lem yn dilyn honiadau ei fod wedi talu am ryw gyda merch 17 oed.
Yn ôl erlynwyr fe gafodd Silvio Berlusconi ryw gyda sawl putain yn ystod partïon ar ei ystâd yn Milan.
Mae’r Prif Weinidog 74 oed wedi gwadu’r honiadau yn ei erbyn, ac wedi rhyddhau dwy neges fideo dros y dyddiau diwethaf yn dweud ei fod yn cael ei erlyn am resymau gwleidyddol.
Mae’r ferch 17 oed, Ruby, wedi gwadu iddi gael rhyw â Silvio Berlusconi. Ddoe ymddangos ar un o sianeli teledu’r Prif Weinidog er mwyn gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Mae honiadau ym mhapurau newydd yr Eidal ei bod hi wedi gofyn i’r Prif Weinidog am €5 miliwn i aros yn dawel.
Cyfaddefodd ei bod wedi derbyn €7,000 ewro oddi wrtho ond nad oedd o “erioed wedi rhoi bys arni”.
Mae arweinwyr gwrthbleidiau’r wlad wedi galw eto ar i Silvio Berlusconi ymddiswyddo ac mae yna sôn am etholiadau cynnar.
Ond mynnodd y Prif Weinidog na fyddai’n ymddiswyddo ac y byddai’n hapus i roi tystiolaeth o flaen llys, ar yr amod bod y barnwr yn ddiduedd.