Mae Morgannwg wedi cadarnhau bod eu chwaraewr amryddawn, Jim Allenby, wedi penderfynu aros gyda’r clwb tan ddiwedd tymor 2012.
Roedd Allenby yn chwaraewr allweddol i’r Dreigiau’r tymor diwethaf, ac fe sgoriodd 1,432 o rediadau a chymryd 53 wiced.
Fe ddaw penderfyniad y gŵr o Awstralia ar ôl i Forgannwg benodi Alviro Petersen yn gapten a Matthew Mott yn brif hyfforddwr newydd y clwb.
“Rydw i wedi mwynhau fy amser gyda Morgannwg ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Matthew Mott ac Alviro Petersen,” meddai Jim Allenby.
“Roedd y tymor diwethaf yn un llwyddiannus i mi ac rwy’n gobeithio y bydd 2011 yn un llwyddiannus i’r tîm.”
Mae Colin Metson wedi dweud ei fod wrth ei fodd y bydd Jim Allenby yn parhau i chwarae dros Forgannwg.
“Mae Jim yn rhan allweddol o’r garfan ac fe gafodd dymor llwyddiannus iawn y llynedd,” meddai Matthew Mott.
Mae is-gadeirydd Morgannwg, Nigel Roberts wedi dweud bod Jim Allenby yn rhan bwysig o gynlluniau’r clwb.