Martin Johnson
Mae hyfforddwr Lloegr, Martin Johnson, wedi dweud ei fod yn disgwyl gêm llawn angerdd yn erbyn Cymru mis nesaf.
Fe fydd Cymru a Lloegr yn wynebu ei gilydd yn Stadiwm y Mileniwm yng ngêm agoriadol pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar ddydd Gwener, 4 Chwefror.
“Mae gêm Lloegr yn erbyn Cymru yng Nghaerdydd yn un arbennig bob tro,” meddai Martin Johnson.
“Mae’n mynd i fod yn gêm angerddol a chyffrous. Mae’n siŵr mai yn Stadiwm y Mileniwm mae’r awyrgylch fwyaf gelyniaethus tuag at y Sais – ond mae hynny’n beth da.
“Mae’n stadiwm yn wych ac mae’n achlysur arbennig. Bydd dechrau’r gystadleuaeth yno ar y nos Wener yn syniad da.”
Ar ôl bod yn gapten ar Loegr ar sawl achlysur yn erbyn Cymru yng Nghaerdydd, mae Martin Johnson yn ymwybodol o bwysigrwydd ymdopi â phwysau chwarae yn Stadiwm y Mileniwm.
“Dyma fydd y tro cyntaf i rai o’r bois chwarae oddi cartref yn erbyn Cymru, ac mae’n gyfle iddynt brofi eu doniau,” meddai.
“Ond pan ydych chi’n chwarae’r gemau mawr, mae’n bwysig mai dim ond gêm o rygbi fel pob un arall yw hi.”