Ysbryd mentro
Mae ein diwydiant bwyd yn elwa’n dda o fentrau arwyr bwyd dewr fel Deiniol ap Dafydd neu Steve Garett, ac yn y blynyddoedd diwethaf mae dau fentrwr arall yn parhau i wneud eu marc yn y maes.

Eisoes yn ymwneud â chwmni olew olewydd Calon Lân o Bwllheli a deli’r Bwtri ym Mhorthmadog, mae Geraint Hughes a Dafydd Gruffydd newydd lansio menter arall gyffrous, sef cwmni Saffari Eryri.

Mae’r fenter yn cydweithio gyda chwmnïau bwyd lleol er mwyn darparu profiadau unigryw o ddiwydiant bwyd y wlad ac yn estyn cyfle i fynychwyr i gyfarfod â chynhyrchwyr, dysgu am eu cynnyrch a’i flasu – diolch i luniad 3 taith fwyd (themâu: caws, diodydd a llysiau) a fydd yn cychwyn yn 2011.

Cymru fach yn cystadlu

Fe gymerodd peth amser dros y blynyddoedd diwethaf, ond yn raddol bach, mae’r wasg fwyd wedi dechrau sylweddoli bod Cymru – pwys am bwys – yn cystadlu llawn cystal gyda’r wlad drws nesa’.

Wfft i Heston Blumenthal a bwyty’r Fat Duck yn Bray – mae Shane Hughes a’i fwydlen blasu yn Neuadd Ynyshir, Machynlleth llawn cystal; wfft hefyd i siop fferm ddrud y crachach yn Daylesford – mae Siop Fferm Penarlâg yn Sir y Fflint yr un mor steilus a chynhwysfawr.

A’r gamp ddiweddaraf yng nghwest y wasg i gymharu Cernyw a Sir Benfro? Wel mae llawer yn honni bod pastai cig oen, grefi a jeli cyrens cochion cwmni Pembrokeshire Pasty and Pie Co bellach yn frenin ar bastai Gernyw.

Hawlio hunaniaeth
Mae tamaid o gystadleuaeth yn iachus, ond mae’n bwysig hefyd i ddal gafael ar ein hunaniaeth fwyd ein hunain. Yn sicr mae na waith i’w wneud – yn ôl canlyniadau arolwg diweddar a gyhoeddwyd gan fwrdd twristiaeth VisitBritain, y full English Breakfast yw’r bwyd eiconig sy’n dal i’n nodweddu ni yn yr Ynysoedd Prydeinig.

Ond yn y blynyddoedd diwethaf mae ‘na fwy o’n hen ffefrynnau traddodiadol wedi dechrau ymddangos ar fwydlenni bwytai ledled Cymru – boed amrywiaeth cawsiau pôb Gwesty Cymru, twist Rhiwafallen ar glasur gyda’u bara brith nectarîns rhost a hufen ia sinamon, neu fwyty Mimosa sy’n cynnig cocos & bara lawr, ffagots neu selsig Morgannwg…

Tafarnau’n troi at fwyd
Gyda llefydd lleol yn cau’n amlach fyth y dyddiau hyn, roedd yn rhaid i dafarnau feddwl tu hwnt i ddiodydd. Felly’n y blynyddoedd diwethaf, cawsom cyrsiau fforio bwyd o dafarn y Foxhunter yn Nantyderry neu siop ddelicatessen gynhwysfawr yn nhafarn y Bunch of Grapes ym Mhontypridd (ar agor saith niwrnod yr wythnos).

Ac wrth gwrs, mae’r ffasiwn o agor bwyty soffistigedig mewn tafarnau yn dal i barhau gyda bwyd o’r radd flaenaf yn Y Daflod yn nhafarn Y Fic, Llithfaen, cyffyrddiad Masterchefaidd ym Mwyty Ludo’s yn nhafarn y Coopers, Castell Newydd Emlyn, a Dafydd Watkin yn dod â swyn y Ritz i fwyty’r Talbot yn Nhregaron.

Delis yn datblygu
Beth hefyd am ddatblygiad ein delis Cymreig? Mae Blas ar Fwyd wrth gwrs yn lasbrint penigamp fel esiampl o siopa ddeli a ddatblygodd i gynnwys bwyty, siop win a gwasanaeth arlwyo, tra bod poblogrwydd deli Wally’s yng Nghaerdydd wedi arwain at sefydlu ail siop yng nghanolfan siopa fodern Dewi Sant 2.

Un arall sy’n brysur ehangu yw siop ddeli’r Bwtri, a enillodd y wobr aur yng nghategori Storau Deli/Arbenigol yng ngwobrau Gwir Flas Cymru eleni. Bellach yn ganolbwynt bwyd i ardal Porthmadog, mae’r Bwtri’n gwerthu hamperi, yn trefnu digwyddiadau cymunedol (megis cystadleuaeth cogyddion Nadolig gorau’r ardal) ac yn gweithredu cynllun cludo bwyd ffres yn y cyffiniau.
Gwyliau bwyd yn byrlymu
Mae gwyliau bwyd y wlad – o Ŵyl Bysgod Sir Benfro i Ŵyl Fwyd y Fenni – yn dal i fynd o nerth i nerth er gwaetha’r sefyllfa economaidd. Cawn dystiolaeth bellach o hyn yn 2011 gyda datblygiad yr Ŵyl Fwyd Really Wild yn Nhyddewi, sydd ar ôl chwe blynedd yn symud dyddiad i wyliau’r haf (Gorffennaf 29 & 30), er mwyn medru ehangu a chroesawu mwy o ymwelwyr i’r  ogan fod safle parhaol yr wyl yn medru ymdopi gyda nifer mwy o ymwelwyr a gofodau parcio.

Bydd y dyddiad cynharach hefyd yn eu galluogi i gynllunio digwyddiad llai o’r ŵyl ym mis Rhagfyr y flwyddyn nesaf – yn cynorthwyo cynaliadwyedd yr ŵyl ac yn eu galluogi i gynnwys plant yn y gweithgareddau bwyd a chefn gwlad.

Teuluoedd yn teyrnasu
Y teulu, mae’n debyg, yw un o gyfrinachau y diwydiant bwyd yng Nghymru, wrth i gwmnïau da fel Caws Cenarth basio i lawr yn ddiogel o un genhedlaeth i’r naill. Esiampl arall o gwmni teuluol newydd a lansiwyd yn ddiweddar yw siop fwyd gynhwysfawr MooBaaOinc ym Miwmares.

 Sefydlwyd y siop gan Brian a Ffiona Thomas o Fferm Plas Coedana yn Llannerch-y-medd, a oedd yn medru ymroi i’r fath fenter, diolch i bartneriaeth gyda’u mab Carwyn a ddychwelodd o’r brifysgol i reoli’r fferm teuluol. Bydd y siop yn gwerthu cig oen a chig eidion gwartheg duon y fferm deuluol ynghyd â llwyth o gynnyrch lleol arall, ac fe fydd y teulu’n gobeithio agor caffi yn y flwyddyn newydd.

Marchnadoedd fferm yn ffynnu
Cafodd marchnad fwyd Madog ei lansio ym Mhorthmadog yn ddiweddar, a fydd yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Celfyddydau Porthmadog ger yr harbwr ar ddydd Sadwrn olaf pob mis. Mae’r farchnad yn fenter ar y cyd gan Llwyddo yng Ngwynedd a Gwynedd Gynaliadwy, yn dilyn galw gan bobl a chynhyrchwyr lleol i sefydlu marchnad cynnyrch lleol yn y dref.

 Ymhlith cynhyrchwyr y farchnad y bydd Traed Moch o Benllyn, Yr Ardd Fadarch yn Nantmor a’r bragwyr Mws Piws o Borthmadog. Bydd y farchnad yn rhedeg am gyfnod arbrofol tan ddiwedd 2011 ond o ystyried poblogrwydd marchnadoedd bwys Cymru, mae’r dyfodol yn ddisglair.
Gwers goginio i’r genedl gyfan

Ydyn, mae Jamie, Gordon, Nigella a’n Dudley ni yn teyrnasu’r teledu ar hyn o bryd. Ond er gwaetha’r tips diri, does dim yn curo dysgu sgiliau mewn gwers goginio ymarferol. Mae’r galw am wersi o’r fath yn dal i gynyddu yng Nghymru ac felly y mae’r ysgolion coginio – beth am ysgol deithiol Angela Gray sy’n symud o amgylch amryw leoliadau yng Nghymru, neu ysgolion coginio The Drovers Rest yn Llanwrtyd, Hurst House yn Nhalacharn, yr Apple Tree a’r Culinary Cottage yn Y Fenni, The Chef’s Room ym Mlaenafon, Peppercorn Cookery yng Nghaerdydd a’r diweddaraf i agor – Cornerhouse Cookery, hefyd yn y ddinas fawr.

Cynyddu Cynnyrch Cymunedol
Er gwaetha’r cynnydd mewn datblygiad trefol, mae’r diddordeb mewn hunan-gynhaliaeth a thyfu eich llysiau eich hun yn cynyddu, gyda rhestrau aros hirfaith am lotments. Diolch byth felly am fenter Gardd Farchnad RCMA sy’n cael ei threfnu gan griw marchnadoedd Glan yr Afon, Y Rhath, Rhiwbeina – enillwyr gwobr aur yng nghategori Cyrchu Lleol.

Mae’r fenter gynaliadwy yn cynnig 10 erw 8 milltir o Gaerdydd i dyfu llysiau, ffrwythau a pherlysiau organig, hyfforddiant garddwriaethol, ymweliadau addysgiadol i sefydliadau a’r cyfle i unrhywun ddod yn gyfrandalwr yn y cwmni a fydd yn golygu pris gostyngedig  ar gynnyrch a’r cyfle i gymryd rhan mewn dathliadau a gweithgareddau yn cynnwys pigo eich llysiau eich hun.