Mae disgwyl y bydd Airbus yn cyhoeddi y bydd 770 o swyddi newydd yn cael eu creu yn ffatri’r cwmni ym Mrychdyn, Sir y Fflint.

Bydd y swyddi’n cael eu creu drwy gynnig cytundebau parhaol i weithwyr dros dro.

Mae’r cwmni o Ffrainc eisoes yn cyflogi 6,000 o bobol yn y ffatri, ble mae adenydd yr awyrennau yn cael eu hadeiladu.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn y newyddion echdoe bod Airbus wedi gwerthu 30 awyren A320 a 30 awyren A320neo i gwmni Virgin yr Unol Daleithiau.

Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd Airbus bod cwmni hedfan o India yn gobeithio prynu bron i 200 o’u hawyrennau A320– yr archeb fwyaf yn hanes y diwydiant.

Gwerthodd Airbus 510 awyren yn 2010, o’i gymharu â 489 yn 2009.