Fe fydd heddluoedd Cymru yn gorfod torri 1,600 o swyddogion a gweithwyr sifil, honnodd Aelod Seneddol o’r Blaid Lafur heddiw.

Dywedodd y cyn-weinidog Chris Bryant, Aelod Seneddol y Rhondda, wrth Dŷ’r Cyffredin y bydd Heddlu De Cymru ar ei ben ei hun yn colli 668 o swyddogion.

Ymateb David Cameron oedd bod heddluoedd yn wynebu “setliad ariannol anodd” ond y byddai swyddogion rheng flaen yn cael eu diogelu.

“Mae ffigyrau ydw i wedi llwyddo i gael gafael arnyn nhw yn dangos bod heddluoedd Cymru yn mynd i orfod torri 1,600 o’u swyddogion a’u staff,” meddai Chris Bryant.

“Dywedodd Heddlu De Cymru wrtha’i bore heddiw bod 668 o swyddogion yn mynd i orfod eu gadael nhw.”

Awgrymodd bod y Prif Weinidog wedi torri ei addewid i osgoi effeithio ar rengoedd flaen heddluoedd.

“Mae pob heddlu yn wynebu setliad ariannol anodd. Rydw i’n derbyn hynny,” meddai’r Prif Weinidog.

“Cyd-destun hyn i gyd yw’r diffyg ariannol anferth sydd â ni a’r llanast anferth sydd rhaid i ni ei dacluso.

“Mae gen i’r ffigyrau ar gyfer Heddlu De Cymru: y flwyddyn nesaf fe fydd rhaid iddyn nhw dorri’n ôl 5%.

“Dyw hynny ddim yn mynd â nhw nol i’r 80au, ond yn ôl i’r gyllideb oedd â nhw yn 2007/08.”