Mae yna adroddiadau y bydd Martyn Williams a Tom Shanklin yn gadael y Gleision ar ddiwedd y tymor yma. 

Fe fydd cytundebau’r ddau Gymro yn dod i ben ar ddiwedd y tymor ac mae’n debyg na fydd y rhanbarth o Gymru’n cynnig eu hymestyn. 

Fe ddaw’r penderfyniad wrth i’r Gleision geisio torri tua £750,000 o’u gwariant blynyddol. 

Roedd cyfarwyddwr rygbi’r Gleision, Dai Young, wedi dweud y byddai’r rhanbarth yn canolbwyntio ar ddatblygu chwaraewyr ifanc y tymor nesaf ar ôl methu a sicrhau lle yn rownd  wyth olaf y Cwpan Heineken eleni.

“Mae gennym ni’r garfan fwyaf costus yn hanes y Gleision ar hyn o bryd, ac roedden ni’n gwybod y byddai’n straeon ariannol cynnal hynny,” meddai Dai Young wrth bapur newydd y Western Mail. 

“Y nod oedd gwneud un ymdrech mawr arall gyda’r chwaraewyr sydd â ni, ond wnaeth hynny ddim gweithio.

“Fe fydd rhaid i ni fod yn synhwyrol a lleihau costau’r garfan.”

Anaf

Fe ddaw’r adroddiadau diwrnod yn unig ar ôl y cyhoeddiad y bydd Tom Shanklin yn methu pencampwriaeth y Chwe Gwlad oherwydd anaf i’w ben-glin. 

Mae angen llawdriniaeth ar y canolwr ar y ben-glin sydd wedi achosi nifer o broblemau iddo dros y blynyddoedd diweddar. 

“Fe ddylai fod yn ôl erbyn diwedd mis Mawrth neu ddechrau mis Ebrill,” meddai Dai Young. 

“Fe fydd yn gallu chwarae yng ngemau olaf y tymor os yw’n holliach.

“Yn amlwg, fe fydd yn awyddus i ddychwelyd cyn gynted a bo modd er mwyn gwthio am le yng ngharfan Cymru ar gyfer Cwpan y Byd.”