Ryan Giggs
Mae prif weithredwr Man Utd, David Gill, wedi dweud ei fod yn bwriadu trafod cytundeb newydd gyda Ryan Giggs.

Mae’r Cymro 37 oed wedi chwarae dros dîm cyntaf Man Utd ers bron i ugain mlynedd, ond mae ei gytundeb presennol yn dod i ben ar ddiwedd y tymor. 

Serch hynny mae’r clwb yn awyddus i gadw Giggs yn Old Trafford am flwyddyn arall. 

“Ni fyddai’n syndod pe bai’n ymestyn ei gytundeb am flwyddyn arall,” meddai David Gill wrth y Daily Telegraph. 

“Fe fydd pethau’n cael eu trefnu dros y mis nesaf. Mae o wedi bod yn chwarae’n dda, mae’n cadw ei hun yn ffit ac yn hysbyseb gwych ar gyfer y gêm.”

Fe chwaraeodd Ryan Giggs ei 600fed gêm gynghrair dros y clwb yn erbyn Tottenham dros y penwythnos.

Dywedodd rheolwr Man Utd, Syr Alex Ferguson, ei fod yn “chwaraewr hynod”.

Mae hyfforddwr newydd Cymru, Gary Speed, hefyd wedi dweud ei fod yn awyddus i ychwanegu Ryan Giggs at ei dîm cynorthwyol.