Mae maer Llundain, Boris Johnson wedi cefnogi adroddiad sy’n galw am faes awyr newydd sbon ar gyrion y brifddinas.
Mae’r adroddiad gan ddirprwy gadeirydd corff Trafnidiaeth Llundain, Daniel Moylan, yn dweud y bydd Llundain yn colli swyddi os nad yw maes awyr newydd yn cael ei adeiladu ar fyrder.
Wrth ryddhau’r adroddiad heddiw, dywedodd Boris Johnson bod adeiladu’r maes awyr yn hanfodol “os ydi Llundain am barhau i fod wrth galon byd busnes”.
Mae’r Llywodraeth wedi gwrthod adeiladu maes awyr yn ne ddwyrain Lloegr, ond mae Boris Johnson o blaid adeiladu maes awyr newydd yn aber y Tafwys.
Doedd yr adroddiad heddiw ddim yn enwi safle penodol ar gyfer y maes awyr newydd, ond fe fydd adroddiad yn hwyrach ymlaen eleni yn trafod sawl safle posib.
Mae penderfyniad Boris Johnson i gefnogi’r maes awyr yn golygu nad yw’n cydweld â’r Llywodraeth a hefyd grwpiau ymgyrchu sydd yn erbyn ehangu meysydd awyr.
Yn ôl yr adroddiadau roedd maes awyr Heathrow wedi disgyn o’r sail safle yn 1990 i’r seithfed yn 2010 ymysg meysydd awyr oedd yn cael eu gwasanaethau gan feysydd awyr eraill.
Mae hi bellach yn bosib hedfan i 157 maes awyr gwahanol o Heathrow, o’i gymharu â 224 o faes awyr Charles de Gaulle Paris a 235 o Frankfurt.
“Mae meysydd awyr y brifddinas yn llawn ac rydym ni mewn peryg o golli swyddi i Frankfurt, Amsterdam, Madrid a dinasoedd Ewropeaidd eraill,” meddai.