Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi lansio ymgyrch newydd sy’n galw ar y cyhoedd i roi gwybod iddyn nhw os ydyn nhw’n drwgdybio bod gan rywun ormod o arian.
Cafodd ymgyrch “Too Much Bling, Give Us a Ring” ei lansio ym Mharc Llandudno ddoe. Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi cipio gwerth £1.3 miliwn o arian oedd wedi ei ennill drwy ddulliau troseddol dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Mae’n arbennig o ddigalon, yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd bresennol, bod pobol sy’n gweithio’n galed ac yn onest yn gweld eraill yn byw ar drosedd,” meddai’r Ditectif Arolygydd Gerwyn Lloyd.
“Nod yr ymgyrch yw targedu’r rheini sy’n byw ar arian sydd yn fwy na’u cyflogau am eu bod nhw’n gwneud arian trwy drosedd.
“Mae’r unigolion yma yn gyfrifol am danseilio cymunedau a dinistrio bywydau – mae’n rhaid i ni roi stop arno ac rydym ni eisiau i’r cyhoedd helpu.
“Os ydych chi’n gwybod am rywun sydd i weld yn byw tu hwnt i’w hincwm neu yn gwneud bywoliaeth o drosedd rhowch wybod.
“Ffoniwch 101 neu Daclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.”
Fe fydd yr ymgyrch yng Nghanolfan Siopa Bay View, Bae Colwyn, yfory, ac ar brif stryd Bangor ddydd Gwener.