Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru
Bydd Prif Weinidog Cymru yn teithio i Lundain heddiw er mwyn cynnal trafodaethau â’r Canghellor, George Osborne.

Dywedodd y bydd yn galw am ddiwygio setliad ariannol Cymru, a sefydlu system “newydd a thegach” yn ei le.

Byddai hynny yn cynnwys grymoedd i fenthyca arian er mwyn buddsoddi mewn prosiectau seilwaith.

Gallai datganoli’r rheolaeth dros feysydd fel y dreth stamp a’r doll teithwyr awyr hefyd fod yn rhan o becyn cynhwysfawr o ddiwygiadau, meddai.

‘Cwbwl annerbyniol’

“Mae’r modd y caiff Cymru ei hariannu ar hyn o bryd – y Fformiwla Barnett – bellach yn gwbl anaddas,” meddai Carwyn Jones.

“Dros amser mae’n debygol iawn o arwain at sefyllfa lle y mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn derbyn llai a llai o arian. Mae hyn yn gwbl annerbyniol ac mae’n rhaid i unrhyw system newydd fynd i’r afael â’r broblem hon.

“Mae angen i ni hefyd sicrhau nad Llywodraeth Cymru yw’r unig Lywodraeth yn y Deyrnas Unedig na all fenthyca arian ar gyfer buddsoddi mewn prosiectau fel ffyrdd ac ysbytai.

“Rydym yn cadw meddwl agored ynghylch posibilrwydd diwygiadau mewn meysydd eraill, gan gynnwys posibilrwydd datganoli rhai pwerau ynghylch trethi. Mae angen i drafodaethau pwrpasol gael eu cynnal cyn gynted â phosibl. Byddwn yn ystyried unrhyw becyn o gynigion sy’n sicrhau setliad ariannol teg a chynaliadwy ar gyfer pobl Cymru.

“Nid ymwahanu sydd wrth wraidd hyn. Hoffem gael system ariannol sy’n cefnogi ein setliad datganoli sy’n aeddfedu ac sy’n cryfhau safle Cymru o fewn y DU.

“Rwy’n edrych ymlaen at glywed y Canghellor yn amlinellu barn Llywodraeth y DU ynghylch yr agenda hon.”

‘Gwell hwyr na hwyrach’

Dywedoddllefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys yn San Steffan, Jonathan Edwards, fod y cyfarfod rhwng Prif Weinidog Cymru a’r Trysorlys yn ‘well hwyr na hwyrach’.

Ychwanegodd fod Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, wedi trafod y mater pythefnos yn unig wedi’r etholiad yn yr Alban.

Galwodd Plaid Cymru am gydraddoldeb rhwng y pwerau ariannol a gynigir i’r Alban, Gogledd Iwerddon a rhai Cymru, gan gynnwys cyflwyno fformiwla seiliedig ar anghenion yn lle’r grant bloc, pwerau benthyg i’r Cynulliad Cenedlaethol, a datganoli treth gorfforaeth.

Gofynnodd Jonathan Edwards pam nad oedd Llafur wedi datganoli y pwerau ariannol i Gymru yn ystod y 13 blynedd y buont hwy yn rheoli’r Trysorlys yn San Steffan.

“Rwy’n falch fod Llafur o’r diwedd wedi dod o hyd i’r drws at rif 11 Downing Street – chwe wythnos yn unig ar ôl i Brif Weinidog yr SNP, Alex Salmond, gyflwyno’r achos dros ddiwygio ariannol yn yr Alban,” meddai Jonathan Edwards.

“Rhaid diwygio Fformiwla Barnett fethedig Llafur a’i throi yn system seiliedig ar anghenion. Ar hyn o bryd, mae Cymru’n cael ei thangyllido o £400m bob blwyddyn, ac y mae hyn yn gwaethygu wrth i amser fynd heibio. Allwn ni ddim fforddio gwylio Cymru yn parhau heb ddigon o gyllid – fel y digwyddodd pan oedd Llafur mewn grym yn San Steffan. “

‘Gadael ar ôl’

“Rhaid i Lywodraeth Cymru allu benthyca digon o arian i wneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl – i wneud iawn am y toriadau i wario ar ysgolion, ysbytai a ffyrdd fel yr awgrymodd Plaid Cymru gyda’n prosiect cyffrous Adeiladu i Gymru,” meddai Jonathan Edwards.

“Rhaid i ni gael pwerau i amrywio treth gorfforaeth fel y bydd gennym dreth is i’n busnesau cynhenid a denu cwmnïau newydd i Gymru. Mae hyd yn oed y Ceidwadwyr Cymreig yn tybio mai dyma fydd y symbyliad gorau i fusnes, ac y mae eu cymheiriaid yn Llundain eisiau ei ddatganoli i Ogledd Iwerddon, felly pam nad ei ddatganoli i Gymru hefyd?

“Gyda newidiadau enfawr ar dros yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae Cymru mewn perygl o gael ei gadael ar ôl gan Lafur unwaith eto. Mae’r achos dros gyfiawnder cyllidol i Gymru yn anhraethol o gryf, a chaiff y Prif Weinidog ei farnu yn ôl yr hyn y gall gael mewn trafodaethau gan y Trysorlys.

“Mae Carwyn Jones eisoes wedi newid ei safbwynt yn sylweddol ar faterion ariannol dros y misoedd diwethaf hyn, tuag at safbwynt Plaid Cymru. “