Mae cwmni Airbus, sydd â ffatri ym Mrychdyn yn Sir y Fflint, wedi denu archeb ar gyfer 60 o awyrennau gan gwmni Virgin America.
Erbyn hyn mae cwmni Airbus wedi gwerthu 2010 o awyrennau. Mae Virgin wedi archebu 30 A320 a 30 A320neo – yr awyren newydd sydd wedi bod ar werth ers mis Rhagfyr.
Yr wythnos diwethaf cyhoeddodd Airbus bod cwmni hedfan o India yn gobeithio prynu bron i 200 o’u hawyrennau A320– yr archeb fwyaf yn hanes y diwydiant.
Gwerthodd Airbus 510 awyren yn 2010, o’i gymharu â 489 yn 2009.
Mae adenydd awyrennau y cwmni o Ffrainc yn cael eu hadeiladu ar y safle ym Mrychdyn.
“Roedd 2010 yn flwyddyn dda, ac yn well nag oedden ni wedi ei ddisgwyl 12 mis yn ôl,” meddai llywydd Airbus, Tom Enders.
“Ond mae â ni sawl her i’w wynebu a bydd rhaid gweithio yn galed er mwyn sicrhau bod 2011 yn flwyddyn lwyddiannus i Airbus.”