Adam Jones
Mae ‘na gur pen i hyfforddwr Cymru, Warren Gatland heddiw wrth iddo baratoi ei hun at y posibilrwydd o golli Adam Jones ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Fe anafwyd prop pen tynn y Gweilch wrth i’w ranbarth golli’n siomedig yn erbyn y Gwyddelod yn Llundain yng Nghwpan Heineken Ewrop ddoe.

Mae Jones, sydd hefyd wedi chwarae i’r Llewod, yn cael ei weld fel conglfaen pac Cymru a gyda’r dewis cyntaf yn safle’r prop pen rhydd, Gethin Jenkins hefyd wedi’i anafu byddai colli Jones yn drychinebus i obeithion Chwe Gwlad Cymru.

Fe anafodd Jones denynnau yn ei fraich chwith wrth i sgrym gael ei dymchwel yn hanner cyntaf y gêm yn Stadiwm Madejski ddoe, ac fe gafodd ei eilyddio yn ystod yr egwyl.

Fe fydd rhagor o brofion yn cael eu gwneud i asesu’r anaf yn ystod y dydd heddiw.

Diffyg dyfnder gan Gymru

Mae safle’r prop pen tynn yn gwbl allweddol i’r gêm fodern ble mae sgrym gadarn yn gallu ennill gemau.

Mae’r safle wedi bod yn broblem barhaus i Gymru dros y blynyddoedd diwethaf, gydag Adam Jones yr unig Gymro o’r safon uchaf sy’n chwarae yn y safle hwnnw.

Mae’r Scarlets wedi dioddef yn y safle hwnnw eleni, gydag anafiadau i’w tri dewis cyntaf yn golygu gorfod troi at yr amhrofiadol Simon Gardiner dros yr wythnosau diwethaf.

Does yna’r un Cymro yn ddewis cyntaf yn y safle gyda’r rhanbarthau eraill chwaith – y Kiwi Ben Castle sy’n chwarae yno i’r Dreigiau tra bod y Gleisio yn ffafrio’r gŵr o Tonga, Tau Filise.

Fe fydd hyfforddwr Cymru’n croesi popeth nad yw’r anaf mor wael ag y mae’n ymddangos felly.