Mae yna bryder y bydd rhaid i’r Eisteddfod Genedlaethol leihau ei maint yn y dyfodol oherwydd effeithiau’r dirwasgiad ar gwmnïau sy’n cefnogi’r ŵyl.
Mae Bwrdd rheoli’r Eisteddfod Genedlaethol ar ddeall y bydden nhw’n cael tua’r un faint o arian gan Lywodraeth y Cynulliad eleni ac y cafwyd y llynedd.
Ond mae yna bryderon y bydd y cyni economaidd yn golygu bod gan gwmnïau llai o arian i fuddsoddi dros y blynyddoedd nesaf.
Cyfarfu Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth ddydd Sadwrn ac roedd effeithiau posibl llai o arian ar yr ŵyl yn un o’r pynciau trafod.
“Mae’n rhaid i ni drafod effeithiau posibl y cynni economaidd ar gwmnïau,” meddai Dr Prydwen Elfed-Owens, Llywydd Llys yr Eisteddfod a Chadeirydd y Bwrdd Rheoli wrth Golwg360.
“Rydym ni’n gobeithio y byddan nhw’n cefnogi’r Eisteddfod fel arfer, ond fe fyddai’n anghyfrifol i ni beidio â thrafod y peth.”
Fe allai toriadau olygu “llai o adeiladau” ar faes yr Eisteddfod a “thynnu ambell i weithgaredd allan”, meddai.
Y prif bwyslais ar hyn o bryd yw “gweithio’n galed a chasglu nawdd”.
“Mae’n bwysig fod cwmnïau a busnesau’n cefnogi a bod pobl yn edrych ymlaen ac yn prynu tocynnau i’r cyngherddau fydd ar gael ar 1 Fawrth.”
Arian cyhoeddus
Mae’r Eisteddfod yn disgwyl derbyn £493,000 gan Lywodraeth y Cynulliad drwy Fwrdd yr Iaith ar gyfer yr ŵyl eleni.
Maen nhw hefyd mewn trafodaethau gyda’r llywodraeth ynglŷn â darparu nawdd ar gyfer diwrnod am ddim fel y gwelwyd yn Eisteddfod Blaenau Gwent.
“Mewn byd delfrydol – byddai’n braf gweld cynnydd mewn arian,” meddai Prydwen Elfed-Owens.
“Ond, rydym ni’n falch ein bod ni’n cael yr un faint.
“Mae yna hefyd gyfle i unrhyw un gyfrannu at Eisteddfod Wrecsam, a gobeithio y bydd pobol yn heidio i’r ŵyl.”