Roedd merch ifanc wedi caniatau i’w chariad drywanu ei thad i farwolaeth mewn dadl dros arian, clywodd llys heddiw.
Cafodd y deliwr creiriau Antoni Robinson, 61 oed, ei drywanu 15 gwaith wrth orwedd yn ei wely yn ei gartref yn Hen Golwyn, clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug.
Dywedodd yr erlynwyr bod Gordon Harding, 20, wedi ymosod arno “wedi ei gefnogi a’i annog” gan ei gariad, a merch Antoni Robinson, Ashleigh Robinson, 19.
Mae Gordon Harding ac Ashleigh Robinson, o Stryd Llanelian, Hen Golwyn, wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth ar y cyd â Sacha Roberts, 19, o Woodland Road West, a merch 16 oed na ellir ei henwi oherwydd ei hoed.
Mae’r pedwar ohonyn nhw’n gwadu’r cyhuddiadau yn eu herbyn.
Trywanu
Dywedodd yr erlynydd Andrew Thomas QC bod yr ymosodiad wedi digwydd yn oriau man y bore 7 Gorffennaf y llynedd pan dorrodd y pedwar diffynnydd i mewn i gartref Antoni Robinson wrth iddo gysgu.
Clywodd y rheithgor bod Antoni Robinson wedi dioddef o anafiadau i’w wyneb, ei wddf, a’i gorff, gan gynnwys pedwar clwyf yn ei gefn.
Cafodd gwythiennau gyddfol eu torri ac fe fu farw o fewn munudau i’r ymosodiad, medd Andrew Thomas.
“Roedd y pedwar diffynnydd yn y tŷ yn oriau man y bore, adeg marwolaeth Antoni Robinson,” meddai.
“Maen nhw i gyd yn gyfrifol am y llofruddiaeth. Fe wnaeth un neu ragor ohonyn nhw ei glwyfo, ac roedd rhai o’r lleill wedi annog neu gefnogi.
“Roedd y lladd o ganlyniad i ddadl deuluol dros arian, gemwaith ac eiddo.
“Cyrhaeddodd y ddadl ei benllanw ar noson yr ymosodiad angheuol.”