Mae teulu Ben Muskett wedi talu teyrnged i’w mab ar ôl ei farwolaeth ddydd Gwener, 14 Ionawr ar yr A470 yng Nganllwyd, Dolgellau.
Roedd Ben Muskett, 25 oed, oedd yn wreiddiol o Fethesda, wedi symud i Lanidloes gyda’i bartner Ambra Finotello ac roedd ar ei ffordd adref pan fu farw mewn gwrthdrawiad ar ffordd Ganllwyd, Dolgellau.
Cafodd Ben Muskett ei addysgu yn Ysgol Friars ym Mangor ac fe astudiodd Gerddoriaeth ym Mhrifysgol Manceinion ble’r oedd yn ddisgybl a phianydd gwych, ac yna aeth ati i astudio i fod yn athro ym Mhrifysgol Bangor.
Daeth yn bennaeth cerddoriaeth yn Ysgol Uwchradd Llanidloes gan barhau i ddysgu piano yng Nghanolfan Gerdd Williams Mathias yng Nghaernarfon.
“Roedd Ben yn gymeriad a hanner, yn llawn egni a brwdfrydedd. Bydd yn gadael gwagle anferth ar ei ôl,” meddai ei deulu.
“Roedd yn rhagori ar unrhyw beth yr oedd yn rhoi ei feddwl arno ac yn teimlo’n angerddol am gerddoriaeth a dysgu. Roedd yn fab a brawd cariadus ac yn ffyddlon i’w bartner, Ambra.”
‘Seren wib’
Dywedodd Sioned Webb, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Gerdd Williams Mathias yng Nghaernarfon, fod Ben Muskett yn “seren wib” gerddorol a bod “Cymru wedi colli un o’i cherddorion gorau”.
“Dw i wedi dilyn ei yrfa â diddordeb ers blynyddoedd ac wedi’i weld yn datblygu i mewn i gerddor medrus, pianydd, ac athro o’r radd flaenaf.”
Ychwanegodd bod yr “holl ddisgyblion yn ei addoli” a bod un ferch 12 oed yr oedd yn ei dysgu bellach yn astudio am radd 8 piano ac wedi ôl ennill gwobrau cenedlaethol.
“Roedd yn teithio’n ôl o’r Ganolfan Gerdd yng Nghaernarfon i’w gartref newydd yn Llanidloes pan ddigwyddodd y drasiedi.”
Dywedodd Darren Davies, Pennaeth Ysgol Uwchradd Llanidloes fod Ben yn aelod staff “hynod dalentog, poblogaidd a gweithgar” oedd yn uchel ei barch ymysg disgyblion, staff a rhieni’r ysgol.
“Mae’n anodd ar hyn o bryd dychmygu bywyd yn Ysgol Uwchradd Llanidloes heb ei bersonoliaeth garismatig.”
Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad a ddigwyddodd ar ôl 10pm ddydd Gwener, 14 Ionawr gysylltu gyda’r Heddlu ar 07769951617, 0845 6071001 neu â Taclo’r Tacle ar 0800555111.