Mae rhediad diguro anhygoel tîm hoci iâ Diawled Caerdydd wedi dod i ben ar ôl iddyn nhw golli yn erbyn Sêr Dundee neithiwr.
Roedd y tîm Cymreig ar rediad o 22 buddugoliaeth yn olynol cyn iddyn nhw golli, yn eironig, i’r un tîm a’i curodd nhw ddiwethaf nôl ar 28 Hydref.
Bu ond y dim iddynt ymestyn y rhediad i 23 buddugoliaeth, wrth iddyn nhw arwain o 1 – 0 wrth gyrraedd diwedd y gêm. Yn anffodus i’r Cymry fel sgoriodd Peter Cartwright wedi 58 munud i’w gwneud yn gyfartal a mynd a’r gêm i amser ychwanegol.
Bu’n rhaid i’r gêm gael ei phenderfynu ar goliau cosb gyda’r cyn chwaraewr Caerdydd, Jay Latulippe yn sgorio’r unig gôl.
“Er tegwch i Dundee doedden nhw ddim o ofn ein chwarae ni fel rhai timau’n ddiweddar,“ meddai hyfforddwr Caerdydd, Neil Francis.
Er gwaetha’r golled mae’r Diawled yn aros ar frig y Gynghrair Elit. Maen nhw’n chwarae eu gêm nesaf nos Fercher nesaf yn erbyn Pantherod Nottingham yn y Gwpan Her.
“Fel y gallwch chi ddychmygu, mae’r bois i gyd yn siomedig o fod wedi colli’r gêm ond mae hynny ein gwneud ni hyd yn oed yn fwy penderfynol i ddechrau ennill eto nos Fercher yn erbyn y Pantherod” ychwanegodd Francis.