Mae’r Dirprwy Brif Weinidog wedi ei gyhuddo o anwybyddu anghenion busnesau ar ôl dweud y byddai’n rhoi rhagor o hyblygrwydd i dadau newydd sydd eisiau treulio amser adref.
Cadarnhaodd Nick Clegg y byddai’r glymblaid yn bwrw ymlaen â chynllun y llywodraeth Lafur flaenorol, sef caniatáu i dadau gymryd rhagor o amser i ffwrdd os ydi’r fam yn mynd yn ôl i’r gwaith yn gynnar.
Ond mewn araith heddiw dywedodd fod y Prif Weinidog, David Cameron, eisiau mynd ymhellach a rhoi mwy o gyfle i dadau dreulio amser â’u plant.
Fe fyddai hynny’n golygu y gallai tadau gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith mewn darnau, yn hytrach nag mewn un blocyn hir.
Dywedodd Nick Clegg bod y sustem bresennol yn ‘Edwardaidd’ ond y bydden nhw’n ymgynghori’n llawn cyn ei newid – ac na fyddai yna unrhyw newidiadau hyd nes 2015.
‘Hyblyg’
Ond rhybuddiodd David Frost, cyfarwyddwr cyffredinol Siambrau Masnach Prydain y byddai’r cynigion yn annog busnesau i beidio â chymryd gweithwyr ychwanegol ymlaen.
“Dyw busnesau ddim yn gwrthwynebu’r egwyddor o ganiatáu amser o’r gwaith i’r ddau riant, ond sut all cyflogwyr drefnu bod rhywun yno i wneud y gwaith os yw’r sustem mor hyblyg?” gofynnodd.
“Fe fyddai’n sustem anodd i fusnesau bychain, ac yn eu hannog nhw i beidio â chyflogi staff ar adeg pan mae disgwyl iddyn nhw greu swyddi a chyfoeth.
“Mae Nick Clegg eisiau cael gwared ar y rheolau anhyblyg – ond mae’r rheolau yn anhyblyg fel bod busnesau yn gallu cynllunio o flaen llaw.”