Colli swyddi yng Nghaernarfon?
Mae undeb y gwasanaethau cyhoeddus a masnachol PCS yn “pryderu” am effeithiau posibl cau swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn y Drenewydd, Llandrindod a Chaernarfon.
Dywedodd llefarydd ar ran yr undeb wrth Golwg 360 y gallen nhw streicio pe bai Llywodraeth Cymru yn penderfynu cau’r swyddfeydd.
Roedden nhw’n deall fod gweinidogion yn ystyried cau y swyddfeydd rhanbarthol er mwyn arbed arian, meddai.
Mae tua 98 o weithwyr yn swyddfa Caernarfon, 135 yn Llandrindod a thua 83 yn Y Drenewydd.
Ychwanegodd llefarydd ar ran PCS nad ydyn nhw’n anghytuno â’r “egwyddor” o gau swyddfeydd mewn llefydd fel Caerdydd sydd ag o leiaf dwsin o swyddfeydd.
Ond roedden nhw’n pryderu am effeithiau cau swyddfeydd mewn ardaloedd eraill yng Nghymru, ble gallai effeithio ar yr economi lleol ac hefyd ar yr iaith.
“Rwy’n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i barhau i ddarparu presenoldeb gwasgaredig ar draws Cymru,” meddai Peter Harris, Ysgrifennydd PCS Cymru.
“Fe gafodd agor swyddfeydd y llywodraeth ym Merthyr, Aberystwyth a Chyffordd Llandudno ei gefnogi gan yr undebau ac mae wedi helpu datganoli gwaith o Gaerdydd.”
Streic?
Ond dywedodd ei bod yn “hanfodol bod gweinidogion yn ystyried yn ofalus yr effaith economaidd o gau swyddfeydd Llywodraeth megis y rhai yng Nghaernarfon, Y Drenewydd a Llandrindod”.
“Mae swyddi yn y sector cyhoeddus yn bwysig iawn i’r ardaloedd hyn ac hebddynt ni fyddai gan y llywodraeth unrhyw bresenoldeb ym Mhowys,” meddai.
Mae PCS yn pryderu y gallai cau swyddfeydd yn Llandrindod a Drenewydd arwain at ddiswyddiadau gorfodol, ac y gallai cau swyddfa Caernarfon gael effaith ar yr iaith Gymraeg a’r economi leol, meddai.
“Ar hyn o bryd, mae gan y PCS fandad ar gyfer gweithredu diwydiannol mewn perthynas â swyddi (yn ogystal â thalu pensiynau),” meddai.
“Felly, mae’n rhaid i ni ddweud y gallai diswyddiadau gorfodol digroeso arwain at anghydfod gyda Llywodraeth Cymru.
“Er gwaethaf y wasgfa ariannol fodd bynnag, rwy’n credu bod modd osgoi anghydfod os oes parodrwydd i ddiogelu swyddi a gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig.”
‘Effaith ar y Gymraeg’
“Mi fyddwn ni’n gwrthwynebu cau’r swyddfa yng Nghaernarfon ynghyd â’r undebau fel rhan o’n hymgyrch yn erbyn y toriadau’n gyffredinol,” meddai Rhys Llwyd, Is-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
“Hefyd, byddai’n gwbl groes i strategaeth iaith y Llywodraeth i wneud hyn. Ydyn nhw wedi ystyried effaith cau’r swyddfa Gaernarfon ar eu gwasanaethau Cymraeg?
“Mae nifer o sefydliadau yn mynd trwy’r broses o gwtogi ar staff a swyddfeydd ac yn colli gwasanaethau a siaradwyr Cymraeg oherwydd eu bod nhw’n canoli pethau i ffwrdd o gymunedau Cymraeg.
“Mae defnydd y Gymraeg yn y gwasanaeth sifil yn isel iawn ar hyn o bryd, byddai cau’r swyddfa yng Nghaernarfon yn gwaethygu pethau yn bellach.”