Glen Freaney
Mae dynes sâl ei meddwl a dagodd ei mab anabl gyda gwregys mewn gwesty wedi osgoi cael ei charcharu.

Cafwyd Yvonne Freaney, 50, yn ddieuog o lofruddio’i mab 11 oed, Glen, ond cafodd ei dedfrydu am ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei hiawn bwyll.

Ar ôl tagu ei mab, a oedd yn awtistig, fe aeth Yvonne Freaney ymalen i geisio gwneud diwedd amdani ei hun.

Roedd y fam a’r mab yn aros yng ngwesty’r Sky Plaza ger maes awyr Caerdydd ym mis Mai y llynedd ar ôl i’w phriodas chwalu.

Roedd hi wedi dioddef trais yn y cartref, ac mae ei thri o blant eraill hefyd yn anabl.

Cafodd orchymyn gwyliadwriaeth o dair blynedd yn Llys y Goron Caerdydd ddoe am ladd Glen.

Cytunodd y barnwr, yr Ustus Wyn Williams, gyda seiciatryddion mai graddau isel o fai oedd arni ac iddi weithredu o anobaith llwyr, a dywedodd na fyddai ei hanfon i’r carchar o fudd iddi. Roedd hi wedi bod o dan glo ers iddi gael ei harestio dros flwyddyn yn ôl.