Muammar Gaddafi - neges fygythiol i wledydd Nato
Mae Muammar Gaddafi wedi bygwth cyflawni ymosodiadau yn erbyn “cartrefi, swyddfeydd a theuluoedd” yn Ewrop os na fydd Nato yn rhoi’r gorau i’r cyrchoedd yn erbyn ei lywodraeth yn Libya.
Rhoddodd arweinydd Libya ei rybudd mewn neges dros y ffôn i filoedd o gefnogwyr a oedd wedi ymgasglu ym mhrif sgwar y brifddinas Tripoli.
Roedd yn un o’r ralïau mwyaf o blaid y llywodraeth ers tro, ac yn dangos y gall Gaddafi ddal i gasglu cefnogaeth sylweddol. Mae hyn er gwaetha’r ffaith fod ei drais yn erbyn gwrthwynebwyr ei lywodraeth wedi arwain at i’r Llys Troseddol Rhyngwladol gyhoeddi gwarant i’w arestio.
Rhybuddiodd Gaddafi y gallai pobl Libya ddial ar yr ymosodiadau gan Nato.
“Fe allwn ni benderfynu eich trin chi mewn ffordd debyg,” meddai. “Fe allwn symud i Ewrop fel locustiaid, fel gwenyn. Rydym yn eich cynghori chi i ildio cyn y byddwch yn wynebu trychineb.”
Nid yw’n eglur ar hyn o byd i ba raddau y gallai Gaddafi gyflawni bygythiadau o’r fath.
Yn y gorffennol, roedd wedi cefnogi amryw o grwpiau terfysgol, gan gynnwys yr IRA a mudiadau Palesteinaidd, ac fe wnaeth ei lywodraeth gydnabod cyfrifoldeb am ffrwydro’r awyren Pan Am uwchben Lockerbie yn 1988 gan ladd 270 o bobl.
Dros y blynyddoedd diwethaf, fodd bynnag, y gred yw fod Gaddafi wedi torri ei gysylltiadau â grwpiau eithafol wrth iddo geisio cymodi ag Ewrop a’r Unol Daleithiau. Mae grwpiau jihadi Islamaidd fel Al Qaida hefyd yn ei wrthwynebu.