Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C
Syrthiodd nifer gwylwyr S4C unwaith eto yn ystod 2010.
Gotyngodd nifer y gwylwyr o 30,000 yn ystod y flwyddyn flaenorol i 28,000 yn ystod yr oriau brig y llynedd.
Cyhoeddodd y sianel ei hadroddiad blynyddol heddiw, gan gyfaddef fod y flwyddyn diwethaf wedi bod yn un “gythryblys”.
Dechreuodd trafferthion y sianel bron i flwyddyn yn ôl, ym mis Gorffennaf, pan adawodd y prif weithredwr Iona Jones.
Gadawodd y Cyfarwyddwr Comisiynu Rhian Gibson yn fuan wedyn ac yna Cadeirydd Awdyrdod S4C, John Walter Jones, ym mis Rhgafyr.
Mae S4C wedi penodi Huw Jones i olynu John Walter Jones yn y swydd honno ac wedi dechrau hysbysebu am olynydd llawn amser i Iona Jones yn gynharach yn y mis.
Mae’r dyfodol hefyd yn heriol i’r sianel wrth iddi wynebu toriadau o 25% a chael ei rhoi dan adain y BBC.
Disgrifiodd Huw Jones 2010 fel “blwyddyn gythryblus yn hanes S4C” ond mynnodd fod gobaith at y dyfodol.
Penodi Prif Weithredwr
“Fy ngobaith i yw troi’r sylw yn awr at yr her sydd o’n blaenau, sef sicrhau ein bod yn cynnal gwasanaeth teledu Cymraeg cryf a deniadol, a fydd wrth fodd cynifer â phosib o wylwyr, wrth i ni fynd i’r afael â’r cwestiynau strwythurol ac ariannol sy’n ein hwynebu,” meddai Huw Jones.
“Yn ystod yr wythnosau nesaf, mae gofyn i ni ddod i gytundeb ag Ymddiriedolaeth y BBC a’r Adran dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) ynglŷn â manylion y bartneriaeth a’r dull ariannu newydd sydd i ddod i rym yn ystod 2013.
“Fe fyddwn hefyd yn bwrw iddi i benodi Prif Weithredwr parhaol a Chyfarwyddwr Cynnwys.
“Gan weithredu argymhellion Syr Jon Shortridge ynglŷn â natur a strwythur y berthynas rhwng yr Awdurdod a’i swyddogion, byddwn yn cymeradwyo strategaeth er mwyn darparu gwasanaeth cyfoes a deniadol mewn cyfnod o doriadau, ac yn ystyried pob dull posib o gwtogi ar wariant nad yw’n ymwneud yn uniongyrchol â chreu rhaglenni a chynnwys.
“Fe fyddwn mor agored ag y mae’n bosib i gorff sy’n delio â chytundebau masnachol i fod ynglŷn â rhesymeg ein penderfyniadau ac fe fyddwn am sicrhau fod barn pobl Cymru – ein gwylwyr – a’u cynrychiolwyr yn cael ei chlywed a’i deall gennym.
“Cefais fy mhenodi i wasanaethu yn y swydd hon am gyfnod o bedair blynedd. Pedair blynedd hefyd yw hyd y sicrwydd ariannol a roddwyd i ni yn natganiad yr Ysgrifennydd Gwladol yn Hydref 2010.
“Mae dyfodol S4C y tu hwnt i hynny – ei hannibyniaeth a’i chyllido – yn dibynnu ar ganlyniad adolygiad allanol sydd i ddigwydd cyn diwedd y cyfnod.
“Ein tasg felly yw sicrhau y bydd yr adroddiad hwnnw yn ddatganiad cadarnhaol am berfformiad y gwasanaeth, gwerthfawrogiad y cyhoedd ohono, y gwerth am arian a ddarperir ac am ei gyfraniad ehangach i fywyd y genedl.
“Dyma’r materion a fydd yn ganolbwynt fy sylw i ac aelodau eraill yr Awdurdod yn ystod y cyfnod sydd i ddod.”