Carwyn Jones
Mae’r arbenigwr ar ddatganoli, Alan Trench, wedi beirniadu galwadau Prif Weinidog Cymru am ragor o rymoedd ariannol i Gymru.
Yn ôl Alan Trench o Brifysgol Caeredin, roedd galwad y Prif Weinidog am yr hawl i Lywodraeth Cymru fenthyg arian, ond nid am rym dros dreth incwm a threth gorfforaethol, yn ‘rhyfedd o ddisylwedd’.
“Mae’r safbwynt ar bwerau benthyca yn rhyfedd,” meddai’r academydd. “Mae perthynas agos iawn rhwng y gallu i fenthyg, a chael ffrwd o gyllid i gefnogi’r benthyciadau rheiny.”
Os nad yw Cymru am fynnu hawliau ehangach i godi trethi, a “dewis bod yn rhan annatod o gyllid cyhoeddus y DU, allen nhw ddim cwyno am orfod derbyn y cyfyngiadau sy’n cael eu rhoi ar y cyllido hynny”.
Trethi
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru ei fod eisiau gweld “un pecyn cydlynol o fesurau ariannol.”
Mae eisoes wedi galw am newid fformiwla Barnett, sy’n penderfynu faint o arian y mae Cymru yn ei gael gan San Steffan.
Dywedodd ei fod hefyd eisiau gweld “datganoli pwerau ariannol penodol o Lundain yn y meysydd hynny lle mae cyfrifoldeb polisi sylweddol eisoes gan Lywodraeth Cymru.”
Byddai’r rheiny yn cynnwys treth ar dirlenwi, treth stamp a threth teithwyr awyr.
Ond yn ôl Alan Trench, dim ond tua 0.9% o wariant Llywodraeth Cymru sy’n cael ei gasglu trwy’r trethi hyn, yn ôl ffigyrau 2007-08.
Serch hynny, ategodd y Prif Weinidog ym mis Mawrth na fyddai’n galw am hawl dros dreth incwm heb refferendwm ar y mater yn gyntaf.
Mae Plaid Cymru hefyd wedi cyhuddo’r llywodraeth o ddiffyg gweithredu yn sgìl cyhoeddiad Carwyn Jones.
“Ar hyn o bryd, mae gan Gymru lywodraeth sydd ddim eisiau deddfu,” meddai Ieuan Wyn Jones.
“Mae Cymru’n cael ei gadael ar ôl gweddill y cenhedloedd datganoledig sy’n pwyso am hawliau gan Lywodraeth San Steffan.”