Mae’r Gymdeithas Feddygol Brydeinig wedi dweud fod yn well gan ddoctoriaid weithio yng Nghymru na Lloegr oherwydd y newidiadau i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yno.
Roedd 86% o’r 5,000 o’r doctoriaid a holwyd gan y gymdeithas yn falch eu bod nhw yn gweithio yng Nghymru.
Mae’r Gymdeithas Feddygol Brydeinig yn cwrdd yng Nghaerdydd yr wythnos yma ac fe fyddwn nhw’n trafod y newidiadau i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Lloegr.
Bydd y newidiadau yn cynnwys rhoi cyfle i Feddygon Teulu gymryd rhagor o gyfrifoldeb dros gyllidebau eu meddygfeydd.
Mae’r newidiadau wedi cythruddo Meddygon Teulu a nyrsys sydd wedi galw am gefnu ar y cynlluniau.
Mae iechyd wedi ei ddatganoli i Gymru felly ni fydd doctoriaid yn y wlad yma yn cael eu heffeithio.
‘Ansawdd byw’
“Mae doctoriaid Cymru yn aros yn driw i egwyddorion y Gwasanaeth Iechyd Gwladol gafodd ei greu gan Aneurin Bevan,” meddai Dr Andrew Dearden, cadeirydd cangen Cymru’r gymdeithas .
“Yn groes i Lywodraeth San Steffan, mae Llywodraeth Cymru wedi lleihau dylanwad sector breifat ar y gwasanaeth iechyd.
“Mae gan Gymru’r cyfan – mae doctoriaid yn gallu gweithio mewn amgylchedd atyniadol â chyfleusterau gwych a chefnogaeth broffesiynol, a hefyd yn cael mwynhau ansawdd byw uchel.”
Yn ôl yr arolwg roedd wyth allan o bob 10 o ddoctoriaid Cymru yn credu fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud y penderfyniad cywir wrth leihau dylanwad y sector breifat ar y gwasanaeth iechyd.