Senedd Cymru
Mae mwy na £157,000 wedi ei wario ar atgyweirio adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd ers iddo agor pum mlynedd yn ôl, cyhoeddwyd heddiw.
Mae’r ffigyrau aeth i lawr y Ceidwadwyr yn dangos fod £25,521 wedi ei wario ar atgyweirio’r adeilad y llynedd, y mwyaf ers 2007/08.
Cafodd £19,000 ei wario ar waith trydanol, £25,000 ar ddrysau newydd, a £19,000 ar waith plymwr.
Mae £16,000 hefyd wedi ei wario ar ffenestri newydd, £10,000 ar oleuadau, £9,000 ar reiddiaduron a £8,000 ar gamerâu.
Costiodd y Senedd £67m i’w adeiladu a chafodd ei agor yn swyddogol ar Ddydd Gŵyl Dewi, 2006. Agorodd bron i bum mlynedd yn hwyr a chwe gwaith dros y gyllideb wreiddiol.
“Mae’r Senedd ballech yn adeilad eiconaidd ac mae Cymru gyfan yn cymryd balchder ynddo,” meddai llefarydd cyllidol yr wrthblaid, Nick Ramsay.
“Ond rydyn ni’n pryderu am faint o arian sy’n cael ei wario ar atgyweirio’r adeilad.
“Dim ond pump oed yw’r adeilad ac roedd disgwyl iddo barhau am 100 mlynedd. Bydd trethdalwyr yn pryderu fod cymaint o arian cyhoeddus yn cael ei wario ar adeilad gostiodd cymaint yn y lle cyntaf.”