Yr Archdderwydd
Mae Aelod Seneddol wedi cyhuddo’r Archdderwydd o siarad drwy ei het.
Roedd T James Jones wedi galw am gynnwys anthem genedlaethol a fflag genedlaethol Cymru yn y Gemau Olympaidd y flwyddyn nesaf.
Dywedodd yr Archdderwydd y dylai unrhyw Gymro neu Gymraes sy’n ennill medal yn y Gemau Olympaidd yn Llundain gael canu Hen Wlad fy Nhadau yn lle God Save the Queen.
Mynnodd y dylid hefyd godi fflag Cymru yn hytrach na Jac yr Undeb wrth iddyn nhw sefyll ar y podiwm.
Daeth ei sylwadau wrth iddo gymryd rhan yn seremoni gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 2012 yn y Barri.
Ond dywedodd Aelod Seneddol Sir Fynwy, David Davies, mai dim ond “lleiafrif bychan yng Nghymru fydd yn cytuno â’r Archdderwydd”.
“Yn fy marn i mae yn siarad drwy ei het. Mae’r rhan fwyaf o bobol yn falch o fod yn Gymry, ond yn falch o fod yn Brydeinwyr hefyd.
“Mae yna amser i ganu Hen Wlad Fy Nhadau, ac rydyn ni’n gwneud hynny yn ystod gemau rygbi,” meddai wrth bapur newydd y Western Mail.
“Ond bydd athletwyr Cymru yn cynrychioli Prydain Fawr, a’r anthem briodol yw God Save the Queen.”
Roedd yr Archdderwydd hefyd wedi beirniadu adeiladu academi filwrol Sain Tathan nid nepell o le fydd yr Eisteddfod yn cael ei gynnal ym mis Awst 2012.
Dywedodd David Davies fod “cysylltiad agos rhwng pobol Cymru a’r fyddin”.
“Mae hynny wedi bod yn wir ers i saethwyr Cymru chwarae rhan bwysig wrth ennill Brwydr Agincourt.”
Sylwadau T James Jones
“Bydd Eisteddfod Bro Morgannwg yn cael ei gynnal ar yr un pryd a Gemau Olympaidd Llundain,” meddai’r Archdderwydd.
“Rydw i’n galw ar sefydliadau Cymreig gan gynnwys yr Orsedd, Llywodraeth Cymru, yr eglwysi, Mercher y Wawr, Urdd Gobaith Cymru, y Ffermwyr Ifanc, y Prifysgolion, ac awdurdodau lleol ledled Cymru i annog Awdurdod y Gemau Olympaidd i godi fflag Cymru, nid Jac yr Undeb, uwchben medalwyr Cymru, ac i anrhydeddu medalwyr Cymru drwy chwarae Hen Wlad fy Nhadau.”
Dywedodd y dylai’r Alban, Llydaw, Cernyw, Gwlad y Basg, a Chatalonia i wneud yr un fath.
Ychwanegodd yr Archdderwydd ei fod yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn dilyn esiampl heddychlon Iolo Morgannwg, sylfaenydd yr Orsedd, a chefnu ar y cynllun i adeiladu academi filwrol yn Sain Tathan.
“Rydw i’n gobeithio y bydd y llywodraeth yn rhoi blaenoriaeth i werthoedd Iolo, gan gynnwys heddwch rhwng cenhedloedd y byd,” meddai.
“Er bod militariaeth wedi cael cymaint o sylw yn ystod agoriad swyddogol y Senedd ar ddechrau’r mis, rydw i’n gobeithio y bydd yn gartref i Lywodraeth sy’n pwysleisio’r angen am gyflogaeth waraidd sydd ddim yn dibynnu ar ymryson a rhyfel.
“Rydw i’n gobeithio na fydd Eisteddfod Bro Morgannwg yn cael ei gynnal dan fygythiad adeiladu academi filwrol anferth yn Sain Tathan.
“Oherwydd y dirwasgiad mae’r cynllun i weld wedi ei atal; ond rydw i’n gobeithio y bydd y Cynulliad yn annog Llywodraeth San Steffan i beidio adeiladu ysgol fomio arall yng Nghymru.”