Rhydian Roberts (llun o'i wefan)
Bydd y canwr Rhydian Roberts yn cyflwyno ei gyfres ei hun ar S4C yn yr hydref, gyda’r nod o roi llwyfan i dalentau newydd Cymru.

Mae’r canwr fu’n ymgeisydd ar gyfres X Factor yn galw ar wylwyr i gysylltu â cwmni cynhyrchu Avanti os ydyn nhw’n meddwl y gallan nhw ddisgleirio yn ei gyfres newydd.

Bydd y gwaith o chwilio am y talentau newydd yn dechrau yfory, wrth i Rhydian a’r cwmni cynhyrchu fynd ar daith o amgylch Cymru yn chwilio am berfformwyr artistig o gantorion a cherddorion i ddawnswyr a digrifwyr.

Bydd yr wyth gorau o’u plith yn ymddangos ar gyfres Rhydian ar S4C o fis Hydref ymlaen.

Bydd llu o westeion arbennig yn ymuno â Rhydian ar y gyfres sy’n cynnwys wyth rhaglen ac un arbennig ar gyfer y Nadolig.

Bydd y rhaglenni yn cael eu recordio yn Stiwdio’r Ddraig, ger Pen-y-bont ar Ogwr.

‘Adloniant pur’

“Mi fydd y gyfres yn sioe o adloniant pur fydd hefyd yn gyfle i dalentau newydd ddisgleirio,” meddai Rhydian, sydd yn wreiddiol o Bontsenni.

“Byddwn yn mynd ati i chwilio am dalentau newydd, ac yn dod o hyd i berfformwyr newydd i ymddangos yn y gyfres.

“Dydw i ddim o reidrwydd yn chwilio am bobl gyda stori bersonol ddiddorol ond rwy’ chwilio am dalent ffres. Nid cystadleuaeth ydi hi ond bydd pob un o’r wyth yn cael cyfle i rannu llwyfan gydag artistiaid byd enwog.”

Mae Rhydian wedi mwynhau gyrfa lwyddiannus ers dod yn ail yng nghystadleuaeth X Factor yn 2007.

Cyn hir bydd yn ail ymuno â chast y sioe gerdd ‘We Will Rock You’ yn yr Hippodrome, Birmingham ac ym mis Awst bydd yn rhyddhau ei albwm diweddaraf ‘Waves’, gyda’r sengl gyntaf ‘Paradise’ ar werth ym mis Gorffennaf.

Dylai unrhyw un sy’n dymuno gwneud cais i ymddangos ar y gyfres Rhydian wneud hynny erbyn dydd Llun 8 Awst drwy ffonio’r cwmni cynhyrchu Avanti ar 07786 33 22 00 neu drwy e-bost Rhydian rhydian@avantimedia.tv