Bydd wyth o feirdd o Gymru ac India yn dod at ei gilydd er mwyn rhannu syniadau a chyfieithu gwaith yr wythnos yma.

Mae pedwar o’r beirdd yn ysgrifennu yn Gymraeg a’r lleill yn ysgrifennu mewn amrywiaeth o ieithoedd Indiaidd.

Bydd yr wyth yn treulio chwe diwrnod yng nghanolfan ysgrifennu Tŷ Newydd ger Llanystumdwy yn cyfnewid syniadau.

Y gobaith yw y bydd barddoniaeth o Gymru yn cael ei gyfieithu i mewn i’r ieithoedd Indiaidd, ac i’r gwrthwyneb.

Bydd y beirdd o Gymru – Menna Elfyn, Eurig Salisbury, Hywel Griffiths, Karen Owen – yn treulio wythnos yn cydweithio gyda phedwar bardd o’r India  – y bardd adnabyddus o Kerala K. Satchidanandan, y bardd ifanc radical Meena Kandasamy, Sampurna Chattarji sy’n hanu o Bengal ond yn bellach yn byw yn Mumbai a Robin Ngangom – bardd a golygydd o Ogledd Ddwyrain yr India.

Rhwng heddiw a dydd Iau bydd y beirdd yn treulio’u hamser yn Nhŷ Newydd, yn gweithio ar gyfieithiadau fydd yn galluogi barddoniaeth Gymraeg i deithio ar draws ffiniau ieithyddol i Bengali, Malayalam, Manipuri a Tamil.

Ar yr un pryd bydd y beirdd Cymreig yn cyflwyno cyfoeth o farddoniaeth gyfoes o’r India am y tro cyntaf erioed i gynulleidfa hollol newydd yma yng Nghymru – drwy eu cyfieithu i’r Gymraeg.

Bydd cyfle i glywed y gwaith yn cael ei ddarllen yn y Blue Sky Cafe, Bangor, ddydd Sul, ac yn Ultricomida, Aberystwyth, ddydd Mercher.

Cynhelir y digwyddiad fel rhan o gynllun Cadwyn Awduron y Cyngor Prydeinig ac fe’i drefnir gan Gyfnewidfa Lên Cymru fel rhan o raglen weithgaredd Tŷ Cyfieithu Cymru ar y cyd â Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Prydeinig Cymru gyda chefnogaeth garedig Llywodraeth Cymru a Llenyddiaeth Cymru.

“Mae cynllun Cadwyn Awduron y Cyngor Prydeinig yn meithrin cysylltiadau rhwng y byd llenyddol yn yr India a’r un yng Nghymru,” meddai Sioned Puw Rowlands, Cyfarwyddwr Cyfnewidfa Lên Cymru.

“Rydym eisoes wedi cyflawni llawer ac ar fin lansio tair blodeugerdd o straeon byrion Cymreig mewn Tamil, Bengali a Malayalam yn yr Hydref.

“Mae’r rhan yma o’r prosiect serch hynny yn cynnig cyfle i gynulleidfa Gymreig ddarganfod y datblygiadau barddonol a’r chwyldroadau llenyddol sy’n digwydd ar hyd a lled yr is-gyfandir Indiaidd.

“Rydym hefyd yn parhau i helpu llenorion newydd a phrofiadol gael eu gwaith wedi eu cyfieithu yn yr India – un o’r marchanoedd cyhoeddi sy’n datblygu gyflymaf yn y byd.”