Stadiwm Gemau Olympaidd Llundain
Mae corff llywodraethol pêl-droed FIFA yn “awyddus iawn” i uno timoedd Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ôl llefarydd ar ran Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Roedd y gymdeithas yn gandryll ddechrau’r wythnos pan gyhoeddodd y Gymdeithas Olympaidd Brydeinig y bydd chwaraewr o bob gwlad yn cystadlu yn nhîm pêl-droed Ynysoedd Prydain.
Mae’r cymdeithasau wedi gwrthod cymryd rhan yn y tîm am eu bod nhw’n pryderu y gallai FIFA benderfynu creu un tîm Prydeinig parhaol os yw’n fenter yn llwyddiant.
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Pêl-droed Cymru wrth Golwg 360 nad oedden nhw am “agor y drws” ar y posibilrwydd o uniad rhwng timau gwledydd Prydain.
“Mae FIFA yn awyddus iawn i weld un tîm yn cynrychioli gwledydd Prydain mewn pêl-droed,” meddai Ceri Stennet o’r Gymdeithas.
“Rydyn ni wedi datgan ers peth amser nad oes unrhyw ddiddordeb gennym ni mewn cymryd rhan.
“Ry’n ni eisoes wedi cael y drafodaeth yma gyda’n cydgymdeithasau ar draws Prydain, ac mae Cymdeithas Pêl-droed Lloegr yn gwybod yn iawn nad oes diddordeb gyda ni mewn cymryd rhan.”
Cyhoeddwyd y datganiad dadleuol gan y Gymdeithas Olympaidd Brydeinig yn dilyn trafodaeth â Chymdeithas Bêl Droed Lloegr.
Ond dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru, nad oedd gan Gymdeithas Bêl Droed Lloegr yr hawl i siarad ar eu rhan nhw.
Dewis y chwaraewyr
Dywedodd Ceri Stennet na fyddai’r gymdeithas yn atal un o chwaraewyr Cymru rhag ymuno ar eu liwt eu hunain â’r tîm Olympaidd, ond ychwanegodd na fydden nhw yn cael eu cefnogaeth.
“Roedd rhai wedi dangos diddordeb i ddechrau, ac yn meddwl y byddai yn syniad da,” meddai.
“Mae’n amhosib i ni eu hatal nhw rhag gwneud hynny, ac ni fydd yna unrhyw ganlyniadau i chwaraewyr sy’n penderfynu cymryd rhan.
“Ond r’yn ni wedi gwneud ein safbwynt yn glir – nad ydi hi yn syniad da. Fe fyddai yn gyfystyr â rhoi ein cefnogaeth i greu ‘Team GB’. Fe fydden ni’n gosod cynsail.”
Agenda gwleidyddol
Ychwanegodd Ceri Stennet ei fod yn credu na ddylai gwleidyddion ymyrryd yn y ddadl ddiweddaraf ynglŷn â chreu tîm pêl-droed Prydeinig ar gyfer gemau Olympaidd 2012.
“Mae pwysau yn cael ei roi ar Gymdeithas Pêl-droed Lloegr gan wleidyddion o bob cwr cyn gemau 2012, ond mae’n beth peryglus iawn i lywodraethau ddylanwadu ar chwaraeon,” meddai.
“Rhaid i’r llywodraeth fod yn ofalus iawn ynglŷn â sut y maen nhw’n delio â hyn,” rhybuddiodd.
“Yn y pendraw,” meddai, “dyw hi ddim mor rhwydd a dewis y 11 chwaraewr delfrydol – mae yna ganlyniadau pellgyrhaeddol i’r penderfyniad.”