Mae Clwb Pêl-droed Abertawe yn chwilio am gôl-geidwad newydd ar ôl i Dorus de Vries arwyddo cytundeb tair blynedd â Wolves heddiw.

Bydd cytundeb y gôl-geidwad 30 oed yn Stadiwm Liberty yn dod i ben ar ddiwedd y mis a methodd gytuno ar delerau newydd.

“Rydyn ni’n siomedig iawn fod Dorus wedi penderfynu ymuno â chlwb arall,” meddai cadeirydd Abertawe, Huw Jenkins, “yn enwedig ar ôl i ni gyflawni cymaint â’n gilydd.”

“Mae’n flin gennym ni ei weld yn gadael. Mae wedi bod yn chwaraewr gwych i ni dros y pedair blynedd diwethaf.

“Rydyn ni’n dymuno’n dda iddo yn Wolves.

“Roedden ni wedi dechrau trafod cytundeb newydd yr haf diwethaf ac wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i ddod i gytundeb. Yn anffodus dyw hynny heb ddigwydd.

“Ond mae’n rhaid i ni dderbyn mai dyna natur pêl-droed, yn enwedig ar y lefel yma. Efallai bod chwaraewyr a’i asiantau yn awyddus i fod gyda chlybiau sy’n debygol o gadw eu lle yn yr Uwch Gynghrair am gyfnod hirach. Dyna’r gwir.

“Roedden ni wedi gobeithio dod a gôl-geidwad newydd i mewn beth bynnag fyddai yn herio Dorus am ei le o flaen y rhwyd.”

‘Her newydd’

Dywedodd Dorus de Vries, a fydd yn herio gôl-geidwad Cymru, Wayne Hennessey, am ei grys rhif 1, ei fod yn “edrych ymlaen at her newydd”.

“Yn Abertawe rydw i wedi cadw fy lle yn y gôl am bedair blynedd ac wedi gweld y clwb yn codi o Gynghrair Un i Uwch Gynghrair Lloegr,” meddai.

“Roedd yn benderfyniad anodd gadael Abertawe ac rydw i wedi bod yn ystyried y peth ers peth amser.

“Y gwahaniaeth ydi fod Abertawe yn gobeithio cadw eu lle yn yr Uwch Gynghrair, tra bod Wolves yn disgwyl aros i fyny.”