simon Jones - dim lwc
Morgannwg 141-7 Essex 145-6

Fe ollyngodd Simon Jones gyfle pwysig a allai fod wedi ennill ei gêm gyntaf yn ôl gyda Morgannwg.

Dim ond pum pelen oedd ar ôl yn y gêm Ugain20 yn erbyn Essex pan fethodd y bowliwr cyflym â chymryd daliad anodd.

Fe allai hynny fod wedi rhwystro’r ymwelwyr rhag ennill gyda dim ond un belen ar ôl.

Fel yr oedd hi, fe ddywedodd capten Morgannwg, Alviro Petersen, nad oedden nhw’n haeddu ennill – dyma berfformiad gwaetha’r tymor, meddai.

Dechrau da

Dim ond 141-7 oedd sgôr Morgannwg er bod Cosgrove a Petersen wedi cael dechrau da. Ond fe aeth y ddau ar 35 a 36 a lwyddodd neb i gael sgôr mawr wedyn.

Dyna oedd y gwahaniaeth – fe lwyddodd chwaraewr Lloegr, Owais Shah i sgorio 60 mewn 45 pelen i arwain y Saeson at 145-6 a buddugoliaeth.

Fe gafodd Simon Jones un wiced am 34 yn ei bedair pelawd.

Ar ôl saith gêm yn y gystadleuaeth, mae’r canlyniad yn golygu bod Morgannwg yn chweched o naw yn eu grŵp.