Mae’r Blaid Lafur wedi cyhoeddi nad ydyn nhw’n bwriadu bwrw ymlaen â chynllun Plaid Cymru i ddarparu gliniaduron am ddim i blant ysgol Cymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y prosiect eisoes wedi costio £662,364 ers lansio ym mis Mawrth 2010.
Dim ond 943 o liniaduron oefdden nhw wedi eu prynu ar gyfer y prosiect fu’n rhan o gyrundeb Cymru’n Un.
Ymddangosodd yr addewid i brynu gliniaduron am y tro cyntaf ym maniffesto Plaid Cymru ar gyfer Etholiadau’r Cynulliad yn 2007.
Ond datgelwyd heddiw nad oedd y Blaid Lafur am atgyfodi’r cynllun wedi’r etholiad ar ôl gorfod gwario £700 ar gyfartaledd ar bob gliniadur.
“Rydyn ni’n croesawu penderfyniad y gweinidog i gefnu ar y cynllun gliniaduron am ddim ond dylid fod wedi gwneud hynny ynghynt,” meddai Angela Burns, llefarydd addysg yr wrthblaid.
“Roedd yn amlwg pan gafodd y cynllun ei gyflwyno nad oedd yn cynnig gwerth am arian ac fe fyddai wedi bod yn well gwario’r arian ar ysgolion.
“Fe ddylai gweinidogion fod yn buddsoddi arian yn y rheng flaen yn hytrach na’i wastraffu ar liniaduron am ddim.
“Rydw i’n synnu fod cyn lleied o liniaduron wedi eu prynu er bod Gweinidogion wedi gwario dros £600,000 ar y cynllun.
“Mae cael gwared ar y cynllun yn awgrymu fod y Blaid Lafur yn cytuno ei fod yn wastraffus ac wedi ei gyflwyno er mwyn cadw Plaid Cymru yn hapus.”