Mae cyfarwyddwr corff sy’n cynrychioli busnesau egni adnewyddadwy Ynysoedd Prydain wedi beirniadu polisi ynni “rhyfedd” Llywodraeth Cymru.
Bydd Carwyn Jones yn gofyn i Lywodraeth San Steffan heddiw am ddatganoli’r grym dros brosiectau egni mawr i Gymru.
Mae’n dweud fod ymgyrchwyr sy’n protestio yn erbyn Llywodraeth Cymru oherwydd y penderfyniad i godi ffermydd gwynt yn gwneud hynny ar gam gan mai San Steffan sydd â’r penderfyniad terfynol.
“Os ydyn ni am gael y bai fe ddylen ni gael y cyfrifoldeb,” meddai cyn cyfarfod Cyngor Prydain ag Iwerddon yn Llundain lle y bydd yn codi’r pwnc.
Ond dywedodd Marcus Trinick, cyfarwyddwr Renewable UK, fod safbwynt Llywodraeth Cymru ar ffermydd gwynt yn un “rhyfedd iawn”.
“Rydw i’n deall pryderon pobol Powys, ond nid y datblygwyr benderfynodd ganolbwyntio eu gweithgaredd yno.
“Polisi Llywodraeth Cymru oedd yn dweud na ddylid datblygu ffermydd gwynt ar draws Cymru ond eu canolbwyntio mewn ambell i ardal.
“Ym mis Mawrth y llynedd cynyddodd Llywodraeth Cymru eu targed o 800 megawatt i 2,000 megawatt.
“Ond nawr maen nhw’n gwadu un o ganlyniadau anochel eu polisïau eu hunain.
“Mae’n rhyfedd iawn.”
‘Dim angen y grymoedd’
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru’r wythnos diwethaf eu bod nhw’n bwriadu cyfyngu ar nifer y datblygiadau ffermydd gwynt.
Daw hynny wedi i ymgyrchwyr wrthwynebu codi melinau gwynt, isbwerdy 29 acr a pheilonau yng Ngheredigion a Phowys.
Ym mis Mai protestiodd 1,500 o bobol yn erbyn y cynllun y tu allan i’r Senedd.
Ond dywedodd un o arweinwyr yr ymgyrch honno, yr Aelod Seneddol Ceidwadol Glyn Davies, nad oedd angen grymoedd ar y Cynulliad dros brosiectau egni mawr.
Dywedodd fod Llywodraeth San Steffan eisoes yn ystyried eu barn nhw cyn gwneud penderfyniadau o’r fath.
“Mae San Steffan yn gallu cymeradwyo prosiect unigol ond mae polisi’r Cynulliad yn cael ei ystyried cyn bwrw ymlaen gyda chodi unrhyw fferm wynt,” meddai Glyn Davies.
Ychwanegodd y byddai galw am rymoedd mewn ardal arall yn “ddryslyd iawn” yn syth ar ôl y refferendwm ar bwerau datganoli ym mis Mawrth.