Mae Gwlad Groeg yn wynebu toriadau trydan wrth i weithwyr streicio yn erbyn cynlluniau i breifateiddio cwmni cynhyrchu ynni mwyaf y wlad.
Mae llywodraeth y wlad yn gobeithio gwerthu cwmni DEH erbyn 2015 er mwyn datrys y diffyg ariannol anferth yno.
Dywedodd undebau fod disgwyl toriadau trydan ynghanol dydd wrth i’r trigolion droi eu hunedau gwyntyllu aer ymlaen.
Mae DEH wedi galw ar bobol i geisio defnyddio llai o drydan heddiw.
“Rydyn ni’n streicio oherwydd bod y llywodraeth wedi cymryd fy mywyd a dyfodol fy mhlant oddi arna’i,” meddai’r trydanwr Giorgos Maleskos.
“Y swydd yma yw’r unig incwm sydd gen i. Ar ôl 33 o waith dw i ddim yn gwybod a fydda i’n gallu parhau i weithio.”
Mae Gwlad Groeg wedi gweld protestiadau dyddiol bron wrth i’r llywodraeth geisio torri cyflogau a phensiynau.