Canol Wrecsam
Wrecsam yw’r unig dref o Gymru sy’n cystadlu am yr hawl i gael ei galw’n ddinas.

Ond mae dinas mwya’ newydd y wlad, Casnewydd, hefyd wedi gwneud cais am gael yr hawl i ethol Arglwydd Faer.

Fe fydd Wrecsam yn cystadlu yn erbyn 25 o drefi eraill o Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon am y teitl sy’n cael ei roi i ddathlu Jiwbilî Diamwnt y Frenhines.

Mae’n gwneud hynny, er bod ymgynghoriad ymhlith 1,500 o bobol wedi dangos bod mwyafrif yn erbyn. Y ddadl o blaid yw y byddai’r enw dinas yn ychwanegu at statws y dref.

Yn erbyn

Roedd llawer yn poeni y byddai cael y teitl yn arwain at drethi uwch a chostau, ond “chwedlau” oedd hynny, yn ôl y cyngor lleol. Maen nhw’n dweud y bydd gwneud y cais yn costio tua £20,000.

Y disgwyl yw y bydd canlyniad y gystadleuaeth yn cael ei chyhoeddi’n gynnar flwyddyn nesa’, gyda gweinidogion y Llywodraeth yn gwneud argymhellion i’r Frenhines.

Mae rhestrau’r enwau wedi cael eu cyhoeddi heddiw ar ôl y dyddiad cau ddiwedd y mis diwetha’. Mae’n debyg mai dim ond un dref a dinas fydd yn cael eu dewis yn y ddau gategori.

Casnewydd – eisiau Arglwydd Faer

Y tro diwetha’ y cafwyd cystadleuaeth debyg, ddeng mlynedd yn ôl, fe gafodd Casnewydd ei gwneud yn ddinas.

Mae hi bellach yn gwneud cais am yr hawl i benodi Arglwydd Faer – teitl er anrhydedd, heb unrhyw bwerau ychwanegol.