Carwyn Jones
Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi ei gyhuddo o ’dindroi’ ar ôl iddo amlinellu blaenoriaethau ei lywodraeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf.
Cynigiodd arweinydd y Blaid Lafur “flas” o amcanion ei weinyddiaeth yn ystod tymor newydd y Cynulliad yn y Senedd heddiw – chwe wythnos ar ôl yr etholiad.
Rhestrodd 10 mesur yr oedd Llywodraeth Cymru yn gobeithio eu troi yn gyfreithiau, yn ogystal ag addo y byddai yn gwella gwasanaethau cyhoeddus.
Dywedodd Carwyn Jones y bydd y rhaglen ddeddfwriaethol llawn yn cael ei gyhoeddi fis nesaf.
Ond dywedodd y gwrthbleidiau fod ei gynigion yn siomedig ac aneglur.
Dywedodd yr Aelod Cynulliad Paul Davies, arweinydd dros dro’r Ceidwadwyr Cymreig, fod datganiad y Prif Weinidog yn ymdebygu i ddarn o bapur gwag.
“Chwe wythnos yn unig ar ôl dechrau tymor newydd y Cynulliad ac mae hi eisoes wedi dod i’r amlwg nad oes gan y Blaid Lafur yng Nghymru unrhyw syniadau newydd,” meddai.
“Ar ôl wythnosau o dindroi dyw gweinidogion ddim wedi gallu creu cynllun eglur ar gyfer y blynyddoedd nesaf.”
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones, ei fod yn siomedig nad oedd rhagor o gig ar yr asgwrn.
“Mae’n annhebygol y bydd yna gyfle go iawn i drafod rhaglen y Llywodraeth cyn diwedd y tymor,” meddai.
“Fe fydd pum mis wedi mynd heibio cyn i ni gael y cyfle i greu deddfau yma.”
Grymoedd newydd
Wrth siarad yn y Senedd heddiw dywedodd Carwyn Jones y byddai pedwerydd tymor y Cynulliad yn un “heriol”.
Ychwanegodd y byddai yn rhai i’w lywodraeth ddod i benderfyniadau anodd ynglŷn â gwariant cyhoeddus.
“Fe fyddwn ni, wrth gwrs, yn gobeithio defnyddio’r grymoedd newydd yr ydym ni wedi eu derbyn yn dilyn y refferendwm ym mis Mawrth ond ni fyddwn ni’n creu deddfwriaeth ar hap,” meddai.
Dywedodd fod y llywodraeth yn bwriadu cyflwyno mesurau ar amddiffyn adeiladu rhestredig yng Nghymru, a mesur fydd yn symleiddio’r gyfraith sy’n rheoli gofal cymdeithasol yng Nghymru.
“Ni fydd yn eich synnu chi chi chwaith ein bod ni’n bwriadu cyflwyno Mesur Rhoddi Organau,” meddai.
O ganlyniad i’r grymoedd newydd dywedodd ei fod yn bwysig fod y rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer y blynyddoedd nesaf yn cael ei archwilio yn graffach nag erioed o’r blaen.
Ychwanegodd ei fod yn croesawu sylwadau gan y gwrthbleidiau eu bod nhw’n bwriadu cydweithio â’r llywodraeth er mwyn dod i benderfyniadau ar y cyd.
“Fe fydd cyfle gennych chi i feirniadu ein rhaglen ddeddfwriaethol pan fydd yn cael ei gyhoeddi yn swyddogol ar 12 Gorffennaf,” meddai.