Ffordd Blaenau'r Cymoedd (Robin Drayton CCA 2.0)
Mae’r Gweinidog Trafnidiaeth wedi cyhoeddi mai cwmni Costain Limited sydd wedi ennill cytundeb £150 miliwn i ailwampio un o ffyrdd pwysica’r Cymoedd.
Bydd y cwmni o Berkshire yn cynllunio ac adeiladu rhan newydd o ffordd yr A465, sef Ffordd Blaenau’r Cymoedd, rhwng Gilwern yn Sir Fynwy a Brynmawr ym Mlaenau Gwent.
Dywedodd Carl Sargeant y bydd rhaid i’r cwmni gyflogi hyn a hyn o bobol o’r gymuned leol.
Mae disgwyl i’r gwaith adeiladu ar y ffordd ddeuol bedair milltir o hyd ddechrau yn 2014 a gorffen yn 2017. Mae’n mynd trwy Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
‘Cam pwysig’
“Mae’r cytundeb yn gam pwysig arall tuag at sicrhau llwyddiant y cynllun i droi ffordd Blaenau’r Cymoedd yn ffordd ddeuol,” meddai Carl Sargeant, AC Alun a Glannau Dyfrdwy.
“Yr A465 yw’r brif ffordd rhwng Gorllewin Cymru a chanolbarth Lloegr ac felly mae’n ffordd hollbwysig.
“Fe fydd gwneud Ffordd Blaenau’r Cymoedd yn ffordd ddeuol yn gwella diogelwch, yn byrhau’r amser teithio i gymudwyr a busnesau ac yn rhoi hwb economaidd i’r ardal.”
Ychwanegodd ei fod yn ymwybodol fod y ffordd yn teithio drwy “ardaloedd prydferth a bregus yn amgylcheddol” a’i fod wedi sicrhau “fod y contractwyr yn ymwybodol o hynny o’r dechrau”.