Daeargryn Seland Newydd
Mae un person wedi marw yn dilyn ôl-ddaeargrynfeydd nerthol yn ninas Christchurch yn Seland Newydd.

Roedd miloedd heb drydan yn dilyn y daeargrynfeydd ddoe. Mae’n ganol gaeaf yn Seland Newydd ar hyn o bryd a’r tymheredd yn y ddinas yn agos at rewi.

Roedd y daeargryn mwyaf yn 6.0 ar y raddfa Richter, a disgynnodd sawl adeilad arall a oedd yn simsan ers daeargryn mawr mis Chwefror.

Y tro yma, fe gafodd 40 o bobol eu hanafu a dywedodd Bwrdd Iechyd Ardal Canterbury fod un dyn oedd mewn cartref gofal wedi marw o ganlyniad i’r daeargryn.

Disgynnodd i’r llawr pan ddigwyddodd y daeargryn ac, er iddo oroesi am ychydig oriau, fe fu farw yn ddiweddarach, medden nhw.

Trydan a dŵr

Yn ogystal â thrydan mae yna broblemau gyda chyflenwad dŵr y ddinas, ac mae’r Maer Bob Parker wedi dweud y dylai pobol ferwi eu dŵr cyn ei yfed.

Ychwanegodd na ddylai pobol fynd i mewn i adeiladau oedd eisoes yn fregus rhag ofn iddyn nhw chwalu.

Fe fuodd 181 o bobol farw o ganlyniad i’r daeargryn gwreiddiol ar 22 Chwefror.