Mae merch dwy oed yn dal i gael ei thrin am losgiadau ar ôl tân mewn carafán laddodd tad a mab.

Fe fu farw Robert Taylor o Fflint, 57 oed, a’i fab Andrew, 26, yn y tân.

Dioddefodd gwraig Robert Taylor, Denise, 50, losgiadau llai difrifol. Ond cafodd eu hwyres, Emmy Taylor, ei llosgi’n ddrwg ac mae hi mewn cyflwr difrifol.

Mae Emmy Taylor, merch mab arall Robert Taylor, Ian, yn cael ei thrin yn Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl. Dywedodd y teulu fod Andrew Taylor wedi mynd yn ôl i mewn i’r garafan er mwyn ceisio achub ei dad a’i nith.

Mae’n debyg fod y tân wedi dechrau dan adlen y garafán ym mharc gwyliau Sunny Sands ger y Bermo, ar ôl i wresogydd fynd ar dân.

Cafodd yr heddlu eu galw ychydig tua 1.45am ar ôl i’r garafán gael ei gweld yn wenfflam yno.

Meddai llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: “Mae dyn 58 oed a’i fab 26 oed wedi marw mewn tân carafán. Cafodd ei wraig 50 oed a’i wyres ddwyflwydd eu hachub o’r tân, ac aed â nhw yn hofrennydd yr heddlu i Ysbyty Gwynedd.”

Ychwanegodd fod y ferch fach wedi dioddef llosgiadau difrifol, tra bod ei nain wedi llwyddo i ddianc gyda “llosgiadau arwynebol” i’w phenelin. Roedd y ddwy wedi cael eu hachub gan gyd-garafanwyr cyn i’r gwasanaeth tân gyrraedd.