Leighton Andrews
Mae’r gweinidog addysg, Leighton Andrews, wedi penderfynu buddsoddi mwy na £6 miliwn er mwyn cynyddu nifer yr athrawon sy’n gallu dysgu a hyfforddi trwy gyfrwng y Gymraeg.

Tros gyfnod o dair blynedd, nod y Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg yw rhoi cyfle i athrawon sydd ddim yn hyderus yn dysgu yn Gymraeg wella eu sgiliau iaith.

“Bydd y Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg yn sicrhau bod ymarferwyr yn cael eu rhyddhau gan eu cyflogwyr er mwyn mynd ar gyrsiau hyfforddi dwys i ddatblygu’u sgiliau iaith Gymraeg.,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

Cafodd y cynllun ei lansio’n wreiddiol yn gynllun peilot yn 2005, ond bydd yr arian yn  sicrhau bod y cynllun yn cael ei gyflwyno mewn rhagor o lefydd a gydag amrywiaeth ehangach o gyrsiau.

Meddai Leighton Andrews

“Drwy’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sydd â digon o ymarferwyr o ansawdd da sy’n meddu ar sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer pob cyfnod addysg a hyfforddiant,” meddai Leighton Andrews.

“Mae’r Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg yn cefnogi’r nod hwn yn llwyr a bydd yr arian a gyhoeddwyd gennyf heddiw, sef £6 miliwn dros y tair blynedd nesaf, yn galluogi mwy o ymarferwyr i gael y cyfle i ddatblygu’u sgiliau iaith Gymraeg ar gyfer addysgu ar bob lefel.”