Caerdydd
Bydd hyd at 600 o swyddi yn cael eu creu mewn canolfan alw dros y flwyddyn nesa’ yng Nghaerdydd, gan gwmni sy’n delio â gwerthiant ar ran nifer o gwmnïau.

Mae Serco wedi dweud y bydd yn agor swyddfa newydd yng nghanol prif ddinas Cymru i reoli gwerthiant a chynnig gwasanaeth cwsmer ar ran cwmnïau megis y Shop Direct Group – y cwmni gwerthu nwyddau dros y We mwya’ ym Mhrydain.

Bydd y ganolfan alw yn agor fis Awst, ac mae Prif Weithredwr y Listening Company – a gafodd ei brynu gan Serco yn gynharach eleni – wrth ei fodd yn cael agor swyddfa yng Nghaerdydd.

“Bydd yr ehangu yma yn gwella ein cysylltiadau daearyddol ac yn gwella ein perthynas gyda chwsmeriaid allweddol, ac yn arwain at greu nifer o gyfleon gwaith a rydym yn rhagweld y bydd y busnes yn tyfu yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod,” meddai Neville Upton.