Chris Grayling yw Gweinidog Gwaith Llywodraeth Prydain
Mae Llywodraeth Prydain wedi datgelu bod dros 77,000 o bobl yng Nghymru wedi bod yn hawlio budd-daliadau diweithdra ers deng mlynedd neu fwy. 

Daw’r ffigwr i’r fei wrth i Lywodraeth Glymblaid San Steffan lansio cynllun newydd i geisio cael tua 2.5 miliwn o bobl Prydain i fynd nôl i weithio dros y pum mlynedd nesaf. 

Bydd dros 500 o grwpiau gwirfoddol yn rhan o’r gwaith o baratoi pobl ar gyfer y gweithle, gan gynnwys Mencap, y Ganolfan Cyngor ar Bopeth (CAB), ac Ymddiriedolaeth y Tywysog. 

Mae’r Gweinidog Gwaith yn rhagweld y bydd ei gynllun yn “taclo’r diweithdra endemig sydd wedi difetha nifer o gymunedau’r wlad am ddegawdau.”

“R’y ni am sefydlu cytundeb lle fyddwn ni’n gwneud ein gorau i baratoi pobl ar gyfer gwaith, gan ddisgwyl i bobl dderbyn swyddi lle maen nhw ar gael,” meddai Chris Grayling. 

Bydd y cynllun yn rhedeg am saith mlynedd ac yn costio rhwng £3 biliwn a £5 biliwn. 

Beirniadu’r cynllun

Mae’r grŵp ymchwil Fframwaith Gwaith wedi rhybuddio na fydd y cynllun yn gwneud rhyw lawer i wella ar y cyfleoedd swyddi mewn ardaloedd sy’n wan yn economaidd ym Mhrydain, sy’n cynnwys rhannau o Gymru, yr Alban a Llundain. 

“Mae’r Rhaglen Waith wedi cael ei selio ar strwythur talu cenedlaethol ac nid yw’n ystyried amrywiadau lleol a rhanbarthol o ran y galw am swyddi,” meddai economegydd Fframwaith Gwaith, Neil Lee. 

Yn ôl Neil Lee mae’r grwpiau sy’n cymryd rhan yn y rhaglen yn cael eu gwobrwyo’n ariannol am helpu pobl i gael swyddi. 

Y pryder, yn ôl yr economegydd, yw y gallai hyn olygu eu bod nhw’n canolbwyntio ar yr ardaloedd hynny lle mae cyflogaeth yn fwy tebygol er mwyn cael eu gwobrwyo, ac fe fydd ardaloedd sy’n fwy bregus o ran economi yn cael eu hesgeuluso.