Emma a Neil Rowlands tu allan i Tre-ysgawen Hall
Mae pennaeth un o westai mwya’r gogledd eisiau galw Ynys Môn yn Royal Anglesey, er mwyn diolch i William a Cate am yr holl sylw “hollol amhrisiadwy” sy’ wedi bod i’r ynys yn y wasg a’r cyfryngau.

Yn ôl Neil Rowlands fe ddylai’r ynys – sy’n cael ei galw’n ‘Môn Mam Cymru’ gan y brodorion – ail-frandio’i hun yn Royal Anglesey er mwyn manteisio ar y ffaith fod y pâr brenhinol yn byw ar yr ynys.

Mae Prif Weithredwr Tre-ysgawen Country House ger Llangefni, eisoes wedi enwi ystafell briodasol y gwesty ar ôl William a Cate.

Ystafell Caergrawnt yw enw’r ystafell – ers iddyn nhw briodi, mae mab y Tywysog Charles a’i wraig wedi cael y teitl Dug a Duges Caergrawnt.

Ac mae’r gwesty moethus wedi cael carped newydd gyda phlu Tywysog Cymru arno.

Maen nhw hefyd yn gwerthu shampên Pol Roger NV Brut Reserve – sef y diod oedd yn cael ei lowcio ym Mhalas Buckingham ar ddiwrnod y briodas fawr.

“Mae criwiau teledu yn dod o bob cwr o’r byd i ymweld ag Ynys Môn ac, fel Gwesty Tre-ysgawen Hall, mae llawer o fusnesau yn brysur iawn,” meddai Neil Rowlands.

“Fedrwch chi ddim prynu’r math yma o sylw positif byd-eang – mae Dug a Duges Caergrawnt yn newyddion gwych i’r ynys yn gyffredinol ac i’r gwesty yn benodol.”

Ac mae gwraig y Prif Weithredwr yn cytuno.

“Mae’r cwpwl brenhinol yn amlwg wedi mopio efo Ynys Môn, ac mae’r Monwysion wedi mopio efo nhw,” meddai Emma Rowlands.

“Mae Royal Berkshire a Royal Deeside yn yr Alban eisoes wedi gosod y cynsail, a rydw i o’r farn y bydda hi’n hollol addas i ni ail-frandio’n hunain yn Royal Anglesey.”

 Ers i William a Cate fynd i fyw ar Ynys Môn mae’r term ‘Anglesonian’ eisoes wedi ei fathu i ddisgrifio’r bobl sy’n byw yno.

Mae’r ddau yn byw ar yr ynys tra bo William yn gweithio yn beilot chwilio-ag-achub gyda’r RAF yn y Fali.

 Gwesty’r enwogion

 Mae gwesty Tre-ysgawen yn brolio cyswllt gyda’r Teulu Brenhinol Prydeinig.

Yn ddiweddar bu Brenhines Lesotho yn aros yno.

Mae’r wlad yn Affrica wedi ei gefeillio gyda Chymru, ac mae’r Tywysog Harry yn gysylltiedig ag elusen sy’n gweithio yno.

Hefyd mae enwogion megis y sêr pop JLS ac Alicia Keys wedi aros yn y gwesty, ac yno y priododd y canwr David Essex y llynedd.

Mae’r Archesgob Desmond Tutu a Syr Richard Attenborough hefyd wedi aros yn y gwesty, a’r seren Hollywood Demi Moore yn ymwelydd cyson pan roedd hi’n ffilmio ar draeth Ynys Llanddwyn rhai blynyddoedd yn ôl.