Bydd drama yn ymwneud ag achos John Owen, y cyn-athro drama o Ysgol Rydfelen a gafodd ei gyhuddo o gam-drin plant, yn cael ei darlledu fore Llun nesaf ar Radio Cymru.
A bydd rhifyn arbennig o Taro’r Post yn ei dilyn er mwyn cael trafod yr “haenau dyrys o bynciau anghyfforddus” sydd yn y ddrama.
Addasiad o ddrama Saesneg lwyddiannus Ian Rowlands o 2007 yw Blinc. Eglurodd y dramodydd wrth Golwg yr adeg honno bod un o gyn-ddisgyblion Ysgol Rhydfelen wedi dod ato un noson ac adrodd ei stori bersonol wrtho. Penderfynodd fynd sgrifennu drama ‘am ddigwyddiadau sydd wedi gwneud bywyd rhai unigolion yn uffern’.
Mae Radio Cymru wedi penderfynu darlledu’r ddrama yn ystod slot arferol rhaglen Nia.
“Rydym wedi ceisio osgoi amser pan allai plant fod yn gwrando gan osgoi gwyliau ysgol a phenwythnosau a hefyd osgoi amseroedd rhaglenni ar gyfer cynulleidfa iau fel C2 yn y nos,” meddai llefarydd.
“Gan fod y ddrama yn gignoeth a’r iaith ar adegau yn un amrwd, a rhai golygfeydd yn rhai allai beri tramgwydd, bydd rhybuddion helaeth yn cael eu darlledu ymlaen llaw i hysbysu’r gynulleidfa o natur y ddrama a’r drafodaeth i ddilyn.”
Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 2 Mehefin