David Crystal
Ni ddylai’r to hŷn feirniadu Cymraeg fratiog y to iau os yw’r iaith i oroesi.
Dyna farn yr ieithydd enwog o Gaergybi, David Crystal, a fu’n siarad yng Ngŵyl y Gelli.
“Fe gaiff rhywun ifanc sy’n defnyddio math arall o Gymraeg ei ddilorni,” meddai wedyn wrth gylchgrawn Golwg.
“Chewch chi mo hynny yn Saesneg, achos nad yw hi’n iaith fregus, ac mae hi’n gallu ymdopi gyda’r fath amrywiaeth. Os ydyn ni’n rhoi gormod o bwyslais ar draddodiad, mae pobol ifanc yn troi eu trwynau.”
Cenhedlaeth Facebook
“Dyma genhedlaeth Facebook. Mae dyfodol y Gymraeg yn nwylo’r bobol yma; nhw yw rhieni’r genhedlaeth nesaf o blant.
“Fe allai’r holl bethau y mae’r Gymraeg wedi’i hennill ers hanner canrif, gyda ffigurau’r Cyfrifiad yn codi a chodi, gael eu gwyrdroi mewn un genhedlaeth, os yw’r bobol ifanc yn troi eu trwynau ar yr iaith.”
Darllenwch weddill yr erthygl yng nghylchgrawn Golwg, 9 Mehefin