Senedd Ewrop yn Strasbwrg
Bydd dirprwyaeth o ymgyrchwyr iaith yn trafod y bygythiadau i S4C mewn cyfarfod â swyddogion uchaf Ewrop heddiw.
Yn ystod ymweliad â Senedd Ewrop yn Strasbwrg bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cwrdd â Chomisiynydd Diwylliant Ewrop Androulla Vasilliou.
Dywed Cymdeithas yr Iaith fod Llywodraeth San Steffan wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau teledu a radio yn y Gymraeg o dan gytundeb Ewropeaidd.
Felly, bydd yr ymgyrchwyr hefyd yn cyfarfod â phennaeth Secretariat Siarter Ewrop dros ieithoedd lleiafrifol Alexey Kozhemyakov sydd yn goruchwylio’r siarter iaith sydd yn cynnwys yr ymrwymiadau hynny.
Y nod meddai llefarydd ar ran y Gymdeithas fydd trafod gyda’r swyddogion effaith y toriadau ar ymrwymiadau cyfreithiol Llywodraeth Prydain.
Mae’r daith i Strasbwrg sydd wedi ei threfnu gan Aelod Seneddol Ewropeaidd Plaid Cymru, Jill Evans.
‘Dyletswydd’
“O dan reolau Ewrop mae yna ddyletswydd ar Lywodraeth Prydain i ddiogelu dyfodol S4C, sef unig sianel deledu Gymraeg y byd,” meddai Bethan Williams, Cadeirydd y Gymdeithas.
“Mae newidiadau deddfwriaethol arfaethedig yr Ysgrifennydd Diwylliant Jeremy Hunt yn peryglu dyfodol y sianel; trwy roi rhwydd hynt i weinidogion ddod a’r gwasanaeth i ben trwy wrthod ei hariannu.
“Mae gyda ni hawliau i wasanaethau teledu a radio trwy’r cytundeb hwn, ac mae rhaid i’r Llywodraeth yn Llundain cadw at eu haddewidion.”