Huw Jones
Mae’r Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, wedi cadarnhau mai Huw Jones yw Cadeirydd newydd Awdurdod S4C.

Bydd Huw Jones yn cychwyn yn ei rôl newydd ddydd Mercher yma.

Cymeradwywyd ei benodiad gan ddau bwyllgor yn y Senedd yn San Steffan ddiwedd mis Mai.

Dywedodd pwyllgorau dethol ar Gymru a Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon eu bod yn hapus ei fod yn ymgeisydd teilwng

‘Croesawu’

Dywedodd Rheon Tomos, Is-Gadeirydd yr Awdurdod, eu bod nhw’n croesawu’r newyddion.

“Mae dyfnder profiad Huw ynghyd â’i ddealltwriaeth o’r byd darlledu yn mynd i fod yn gaffaeliad enfawr i ni wrth i ni wynebu sialensiau niferus y blynyddoedd nesaf,” meddai.

“Edrychwn ymlaen at gefnogi Huw yn ei rôl newydd.”

Bu Huw yn Brif Weithredwr S4C am bron i 12 mlynedd, rhwng 1994 a 2005, yn dilyn gyrfa yn gynhyrchydd teledu annibynnol, gŵr busnes a pherfformiwr.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, fe gadeiriodd is-gwmni masnachol y Sianel a bu’n Gyfarwyddwr SDN Cyf, deiliad trwydded deledu ddigidol ddaearol. Bu’n Gadeirydd yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd am dair blynedd hefyd.

Fe ymddiswyddodd y Cadeirydd diwethaf, John Walter Jones, ym mis Rhagfyr ar ôl gwrthdaro gyda gweddill Awdurdod y sianel.

Rhagor am Huw

Mae Huw wedi bod yn flaenllaw yn y byd cerddoriaeth a chyfryngau Cymraeg ers y 1960au hwyr. Roedd yn un o gyd-sylfaenwyr Cwmni Recordiau Sain ac yn Rheolwr y cwmni hyd at 1981. Cyd-sefydlodd un o’r cwmniau teledu annibynnol cyntaf, Teledu’r Tir Glas, yng Nghaernarfon, yn 1981 gan gynhyrchu a goruchwylio rhaglenni adloniant, ffeithiol a phlant nes iddo ymgymryd â’i swydd yn S4C.

Chwaraeodd ran allweddol yn sefydlu Barcud, y cwmni adnoddau teledu, ac roedd yn Gadeirydd y cwmni rhwng 1981-1993. Huw oedd Cadeirydd cyntaf Teledwyr Annibynnol Cymru (1984-1986).

Magwyd Huw yng Nghaerdydd. Astudiodd Ieithoedd Modern yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Daeth yn adnabyddus yn gyntaf oll fel canwr poblogaidd a chyflwynydd rhaglenni teledu.

Ar hyn o bryd, Huw yw Cadeirydd Portmeirion Cyf ac Is-Gadeirydd Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru. Mae’n aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg, Cyngor RSPB ac mae’n Is-Gadeirydd Canolfan Dysgu Iaith Nant Gwrtheyrn.