Cadair yr Urdd (Llun S4C)
Llyr Gwyn Lewis o Gaernarfon enillodd Gadair yr Urdd yn Abertawe heddiw, a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol, gyda cherdd “fentrus” am gariad yn y brifddinas.
Dilyniant o gerddi byrion am ddirywiad perthynas dau gariad yw’r gerdd fuddugol, a oedd yn ymateb i’r testun gosod eleni sef ‘Fflam’ – testun, yn ôl Llyr Gwyn Lewis, a ddechreuodd gyda geiriau Waldo Williams am “Abertawe yn fflam”, ac a dyfodd yn ddilyniant o gerddi am Gaerdydd, lle mae bellach yn byw.
Mae’r cerddi’n amrywio o ran mesur, gydag odl a chynghanedd yn frith drwy’r gwaith, er nad awdl oedd y gwaith buddugol – yn wahanol i’r gwaith a enillodd y gadair iddo yn Llanerchaeron y llynedd, a ffurf sydd wedi dod yn amlwg iawn yn y gystadleuaeth dros y blynyddoedd diwethaf.
Dywedodd Mererid Hopwood ac Emyr Lewis yn eu beirniadaeth bod yr enillydd yn “fardd dawnus iawn … Nid yw’n gwastraffu geiriau, ac nid oes ôl straen na brys ar y casgliad. Mae’n bleser mawr i ni’n dau i gael cadeirio bardd mor addawol. Mi fydd pobl yn mwynhau darllen a gwrando’r cerddi ardderchog hyn.”
‘Mentrus’
Er gwaetha’r geiriau caredig, dyw’r bardd ei hun yn siŵr a yw hi mor llwyddiannus â’r awdl a enillodd y gadai’r iddo’r llynedd.
“Mae hon yn dipyn mwy mentrus na’r llynedd ond bosib nad ydi hi cweit mor llwyddiannus fel cyfanwaith,” meddai’r bardd, sy’n astudio am ddoethuriaeth ar waith T Gwyn Jones a WB Yeats yng Nghaerdydd erbyn hyn.
“Dw i ddim yn siŵr a ydi hi’n gweithio yn berffaith y tro yma. Dw i’n meddwl bod yr awdl yn fwy crwn ac yn fwy gorffenedig a bod yna linyn cryfach trwyddi hi. Wn i ddim a ydi’r darnau rhydd yn gweithio wrth neidio nôl a blaen.”
Fe sgrifennodd y gerdd yng Nghaerdydd yn ystod yr eira mawr fis Chwefror, yn dychmygu cariad yn fflam a hithau’n diffodd.
Mae’n edmygydd brwd o gasgliad o gerddi rhydd y beirniad Emyr Lewis am Gaerdydd, ‘Rhyddid’. “Maen nhw’n gerddi gwirioneddol wych am Gaerdydd, dw i’n meddwl. Felly mae hwnnw’n ddylanwad amlwg.
“Mae yna rywfaint o bethau personol yna hefyd, ond dw i’n gobeithio ei bod hi’n fwy na cherdd bersonol, ei bod hi’n dweud rhywbeth yn fwy cyffredinol, yn creu naws Caerdydd, yn y nos, yn y gaeaf.
“Am wn i, mae fflam perthynas yn ddelwedd eithaf treuliedig ar un ochr, ond gobeithio fy mod i’n gwneud rhywbeth newydd efo fo – dw i’n sôn yn fwy am y lludw yn hytrach na’r fflam ei hun.”
‘Rhyddid’
Roedd yn awyddus i gynnig eto eleni er mwyn gweld a allai cerdd rydd ddod i’r brig ar ôl i gerddi caeth fod yn fuddugol am flynyddoedd lawer. Dywedodd ei fod yn teimlo rhyw “rhyddid” newydd wrth gystadlu eleni, ar ôl dod yn fuddugol y llynedd.
Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Guto Dafydd o Arfon, a’r trydydd oedd Siôn Pennar o Eifionydd.