Elin Gwyn (llun S4C)
Mae enillydd y Fedal Ddrama Eisteddfod yr Urdd eleni, Elin Gwyn, wedi ysgrifennu am bwnc sy’n agos ati hi a’i theulu.
Mae’r ddrama dau gymeriad yn mynd i’r afael â dementia, sydd wedi effeithio ar deulu perthnasau iddi a’i chariad.
“Roedd nain fy nghefndryd i yn Nolgellau yn dioddef o ddementia a mam gu fy nghariad i hefyd yn dioddef ohono,” meddai Elin Gwyn, y hynaf o bedair chwaer, sy’n byw yn Sling ger Bethesda.
“Mae o’n rhywbeth sydd wedi fy effeithio o bell i raddau ond hefyd yn eithaf agos.”
Graddiodd Elin Gwyn y llynedd ac mae hi bellach yn ei blwyddyn gyntaf yn astudio ar gyfer doethuriaeth yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.
Aeth Elin Gwyn i Ysgol Dyffryn Ogwen ac yna i Brifysgol Caerdydd i astudio llenyddiaeth Saesneg.
Mae’r ddoethuriaeth yn astudiaeth o gyfraniad diwylliedig y diwydiant llechi yn y cyfnod ôl-ddiwydiannol ac fel rhan o’r cwrs mae hi’n gweithio yn Yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis.
Dementia
“Gwraidd y ddrama oedd perthynas Rhys fy nghariad â’i fam gu wrth iddi fynd drwy ddementia,” meddai cyn egluro’i bod wedi cymryd tua “deufis” i ysgrifennu’r ddrama.
“Mae Aled Jones Williams wedi dylanwadu rywfaint ar y ddrama. Roedd ei ddrama Merched Eira yn delio â Dementia hefyd.
“Ro’n ni’n hoffi’r ffordd yr oedd o’n portreadu Dementia mewn ffordd eithaf absẃrd. Dw i’n meddwl mod i ’di mynd ar drywydd mwy traddodiadol – ond yr un themâu sydd yno.”
Gwilym Dwyfor Parry, Aelod Unigol o Gaerdydd ddaeth yn ail, a Llŷr Titus, Aelwyd Coleg Meirion Dwyfor Pwllheli yn drydydd.
Y beirniaid oedd Manon Eames and Tim Baker. Rhoddwyd y fedal gan Bwyllgor Rhanbarth yr Urdd Gorllewin Morgannwg, a noddwyd y seremoni heddiw gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.